Hygyrchedd

Rydym yn ymrwymedig i wneud ein campysau'n hygyrch i bawb ac rydym am i chi allu defnyddio ein cyfleusterau a'n gwasanaethau yn hwylus ac yn hyderus.
Er mwyn creu campws cynhwysol sy'n groesawgar i bawb, gwnaethom gynnal archwiliad hygyrchedd gyda'n darparwr arlwyo i'n helpu i nodi meysydd i'w gwella.

Yn dilyn yr archwiliad hwn, rydym wedi gwneud nifer o welliannau, gan gynnwys:

- Gwasanaeth bwrdd i'r rhai nad ydynt yn gallu archebu'n annibynnol
- Cymorth i'r rhai nad ydynt yn gallu cyrraedd eitemau ar silffoedd uwch
- Digon o le yn yr ardaloedd hyn am gadeiriau olwyn, defnyddwyr ffyn neu ffrâm i gyrraedd y cownteri/llwybrau cerdded
- Cynhwysiant deietegol - mae ein staff wedi'u hyfforddi o ran alergeddau bwyd ac anoddefgarwch, ac mae labeli alergenau ar ein bwyd

Os oes angen cymorth arnoch neu fwy o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o'r tîm.