Eich siop dan yr unto ar gyfer bwyd, danteithion a chymdeithasu

Gydag amrywiaeth eang o fwyd a diod ar gael ar y campws, gallwch ddefnyddio ap Time 2 Eat i gael gafael ar y cwbl trwy wneud dim mwy na chlicio botwm.

Gallwch:

  • Glicio, casglu ac ail-lenwi ar y campws
  • Cael bwyd wedi’i ddanfon o gaffis dethol
  • Ychwanegu at eich balans – gall unrhyw un ychwanegu arian at eich cyfrif
  • Ennill pwyntiau teyrngarwch bob tro y byddwch yn archebu
  • Archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau bwy

Unwaith eich bod chi wedi lawrlwytho’r ap, bydd angen i chi fewngofnodi’r côd: Swansea, wedi’i ddilyn gan eich cyfeiriad e-bost ac yna gallwch chi archebu eich hoff brydau.