- Rhif y Swydd
- SU00264
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £22,681 i £24,533 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Parc Dewi Sant, Caerfyrddin
- Dyddiad Cau
- 6 Mai 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 16 Mai 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Emma Roberts e.j.roberts@swansea.ac.uk
- Nikola Aston n.aston@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae hon yn swydd tymor penodol tan 31 Mai 2025 yn gweithio'n llawn amser.
Bydd y Cynorthwy-ydd Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr yn gweithio yn y Gyfadran Addysg a'r Tîm Profiad Myfyrwyr mewn partneriaeth â staff academaidd i gyflawni'r lefelau uchaf o ragoriaeth mewn cymorth proffesiynol
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol.
Mae'r gwasanaeth hwn yn ymateb i ymholiadau myfyrwyr, ac mae'n rhagweithiol er mwyn darparu gwybodaeth drwy gydol y flwyddyn academaidd. Rhaid bod cyngor yn gywir iawn felly mae deall rheolau, canllawiau a phrosesau academaidd yn bwysig. Mae sensitifrwydd, empathi, dealltwriaeth o anghenion gwahanol fyfyrwyr a sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, ynghyd â dealltwriaeth glir o ffiniau proffesiynol, yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Gallai'r rôl hon gynnwys datblygu gwybodaeth arbenigol am faes rhaglen penodol yn y Gyfadran.
Bydd timau Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr mewn swyddi blaen tŷ/derbynfa a disgwylir iddynt weithio mewn swyddfeydd sy'n darparu gwasanaethau myfyrwyr a derbynfeydd yn ogystal â darparu cymorth a gwybodaeth ar-lein, drwy e-bost a thros y ffôn/drwy sgwrsio.
Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr a fyddai'n mwynhau ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan alluogi cymorth yn y Gyfadran wrth hefyd weithio gyda chynrychiolwyr myfyrwyr, cymdeithasau myfyrwyr a staff academaidd i fwyafu profiad y myfyrwyr
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon yn cymrydar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.