Cyn i chi gyrraedd Prifysgol Abertawe

Cyn i chi gyrraedd Prifysgol Abertawe

Cyn i chi gyrraedd

Cyn i chi ddechrau yn eich rôl newydd, anfonwch ebost at eich cyswllt Adnoddau Dynol, i drefnu iddynt weld y canlynol:

  • Eich trwydded deithio.  Mae angen hwn er mwyn gwirio'ch hunaniaeth a sicrhau eich bod yn gymwys i weithio yn y DU.
  • Eich cymwysterau.
  • Y ffurflenni a anfonwyd atoch gyda'ch llythyr penodi.
  • Manylion eich cyfeiriad yn Abertawe (os yw hyn yn gyfeiriad dros dro gan eich bod yn byw yn rhywle arall, dylech hysbysu'r Adran Adnoddau Dynol pan fyddwch yn symud).

Yn eich llythyr penodi, rhestrir nifer o ddogfennau perthnasol y dylech eu darllen cyn cychwyn yn eich swydd newydd. Cewch ddarllen y rhain ar ein gwefan yn ein Pecyn i Staff Newydd

Teithebau a Thrwyddedau Gweithio

Cynigir y swydd i chi ar yr amod eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os ydych chi'n credu y bydd angen trwydded weithio neu deitheb i fod yn gymwys, cysylltwch â'ch swyddog Adnoddau Dynol.  (Bydd y manylion cyswllt yn eich llythyr penodi.) Bydd y swyddog yn gallu rhoi cyngor i chi ar gael y trwyddedau perthnasol.

Os, ar unrhyw adeg yn ystod eich cyflogaeth, yr ydych heb ganiatâd priodol i weithio yn y Deyrnas Unedig, bydd yr Ordinhad canlynol yn berthnasol: Ordinhad Terfynu ar sail anghyfreithlondeb.

Prawf Meddygol

Bydd pob aelod newydd o staff yn derbyn holiadur meddygol gan Adnoddau Dynol fel rhan o’r broses recriwtio. Bydd yn ofynnol ei gwblhau a’i ddychwelyd i Iechyd Galwedigaethol – trwy e-bost neu drwy’r post.

Asesir yr wybodaeth a roddir ar yr holiadur iechyd, a chedwir hon yn gyfrinachol gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol. Ar ôl ei hasesu, anfonir tystysgrif addasrwydd i weithio at Adnoddau Dynol.

Efallai bydd Iechyd Galwedigaethol angen cysylltu eto os bydd eisiau rhagor o wybodaeth cyn cadarnhau addasrwydd i weithio. Gan ddibynnu ar natur y gwaith sydd ar y gweill, gellir gofyn i ddechreuwyr newydd fynd i Iechyd Galwedigaethol am asesiad pellach.

Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt)

Mae'n bosibl y bydd eich penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Os yw hyn yn wir, cewch eich hysbysu yn eich llythyr penodi. Ceir rhagor o fanylion yn: Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt).


CYSYLLTU Â NI

Nodwch:
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio o bell. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â derbynyddion adnoddau dynol, ar ebost: Alison Gunduz.

Fel arall, rhestrir manylion yr Uwch-dîm Reoli ar ein tudalennau Cwrdd Ein Tim

Adnoddau Dynol

Llawr 5 
Faraday
Prifysgol Abertawe
Abertawe
SA2 8PP

Tel: +44 (0)1792 295138