Dinasyddion Tramor

Gwybodaeth i Ddinasyddion Tramor

Cyfrif Banc

Rhaid bod gennych gyfrif banc Prydeinig er mwyn derbyn eich cyflog.  Mae banc ar gael ar y campws, neu mae nifer o fanciau gwahanol oddi ar y campws yn Abertawe.  Gallwn ddarparu llythyr yn cadarnhau ein bod yn eich cyflogi os bydd eich banc yn gofyn am y fath lythyr.

Rhif Yswiriant Gwladol

Mae hyn yn rhif unigryw, ac mae ei angen arnoch pan fyddwch yn dechrau gweithio. Am ragor o wybodaeth am yswiriant gwladol, ewch i: https://www.gov.uk/yswiriant-gwladol.  Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol eisoes, bydd angen i chi drefnu apwyntiad am gyfweliad â'r Swyddfa Nawdd Cymdeithasol leol. Os ydych yn ffonio 01792 450200 ar ôl cyrraedd Abertawe, byddant yn trefnu cyfweliad ac ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych.

Gwybodaeth Bellach

Mae cymorth ychwanegol ar gael i staff rhyngwladol sy'n symud i brifysgolion y Deyrnas Unedig yn:

Dinasyddion Tramor - Cofrestru â'r Heddlu

Mae'n bosibl y bydd eich trwydded breswylio'n gofyn eich bod yn cofrestru â'r heddlu. Os yw:

Cynhelir sesiwn Cofrestru â'r Heddlu bob dydd Iau rhwng 12.30pm a 3.00pm yng Ngwasanaethau Cymorth Myfyrwyr. Ffoniwch dderbynfa Gwasanaethau Myfyrwyr, neu galwch heibio, ymlaen llaw i drefnu apwyntiad.

Fel arall, cewch ymweld â'r Ganolfan Ddinesig yn Heol Ystumllwynarth, ar ddydd Gwener yn unig, rhwng 9.00am a 12.30pm. Nid oes angen apwyntiad.  Fodd bynnag, rhaid i chi ymweld ar yr amserau a nodwyd gan na chewch gofrestru mewn unrhyw orsaf heddlu yn Abertawe.

Gallwch ddal unrhyw fws o Gampws Singleton y Brifysgol i Orsaf Fysiau'r Cwadrant.  O fan'na, mae'n daith 5 - 10 munud ar droed i'r Ganolfan Ddinesig (Cod Post SA1 3SN).

Wrth gofrestru am y tro cyntaf, bydd angen:

- Eich trwydded deithio
- 2 lun addas am drwydded deithio
- £34 mewn arian parod
- Datganiad yn cadarnhau'ch swydd yn y Brifysgol, a chopi o'ch teitheb (os yw'n berthnasol)