Gwasanaeth Prawf

Cyfnod Prawf

Os ydych yn aelod newydd o staff y Brifysgol, mae'n debyg y byddwch ar gyfnod prawf. Mae hyn er mwyn darparu fframwaith cynorthwyol wrth i chi ymgyfarwyddo â'ch swydd newydd.

Bydd eich cyfnod prawf yn eich galluogi i ddatblygu gallu a chymhwysedd ar gyfer eich swydd, gan nodi'ch anghenion hyfforddiant yn gyson ag amcanion strategol a gwerthoedd eich Coleg neu Gyfarwyddiaeth. Mae gan y Brifysgol dri math o Weithdrefn Cyfnod Prawf, a bydd hyd eich cyfnod prawf wedi'i nodi yn eich llythyr penodi. Ym mhob math o gyfnod prawf, gosodir a chytunir targedau, a chynhelir dau neu dri adolygiad ffurfiol i fonitro'ch cynnydd.

Bydd y broses hon yn sicrhau y cewch bob cyfle i uchafu'ch potensial wrth i chi gychwyn yn eich swydd newydd yn y Brifysgol.

Rhagor o wybodaeth am y cyfnod prawf