Menyw oedrannus yn eistedd o flaen silff lyfrau

Mae angerdd hyd oes am addysgu wedi arwain at Bernice Juxon-Jones yn parhau â’i hastudiaethau i'w hymddeoliad. Nawr yn 92 mlwydd oed mae hi wedi cael gradd Meistr mewn Athroniaeth mewn Almaeneg Canoloesol o Brifysgol Abertawe.

Wedi symud i Abertawe'n 6 mlwydd oed, gweithiodd Bernice fel athrawes cyn mudo i Bermuda lle mae hi'n parhau i fyw. Drwy gydol ei bywyd proffesiynol prysur, parhaodd i astudio ac roedd ganddi 2 radd BA a dwy MA pan gofrestrodd ar ei thaith academaidd ddiweddaraf yn 2019, i archwilio'r gerdd ganoloesol wych, Parzival.

Meddai'r Athro Julian Preece, Cadeirydd Almaeneg yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: "Roedd yn bleser gen i, a fy nghyd-weithiwr Dr Alison Williams weithio gyda rhywun oedd mor ymroddgar i'w phwnc, Parzival gan Wolfram von Eschenbach sy'n adrodd taith un dyn am y greal santaidd.

"Mae gan Bernice ddiddordeb yn y gwerthoedd Cristnogol y mae Wolfram yn eu harchwilio, yn benodol y ffurfiau o drawsnewidiad ac achubiaeth, ac mae wedi datblygu dehongliad yn seiliedig ar ei ffydd ei hun.

"Roedd gweld Bernice yn archwilio'r pwnc er mwyn ei hun yn ei hymddeoliad yn ysbrydoledig ac mae ei chyflawniad yn ardderchog."

Dechreuodd ei diddordeb mewn Almaeneg wrth iddi fod yn yr ysgol a dod o hyd i hen lyfr yn ei chartref: "Roedd yn hen lyfr gramadeg Almaeneg, wedi'i brintio ym 1889 mewn sgript Gothig, gydag enghreifftiau o lawysgrifen mewn sgript Kurrent. Cefais fy syfrdanu a dechreuais addysgu fy hun.

"Roeddwn yn teimlo'n falch iawn o fy nghyflawniad, o wneud cynnydd o'r der, die, das syml i Safon Uwch, i BA (Anrh) Llundain."

Archwiliodd hefyd Hen Norseg, a Sbaeneg cyn dewis astudio Safon Uwch Ffrangeg, ac yna Safon Uwch mewn Almaeneg.Yn hwyrach, enillodd ragor o gymwysterau Safon Uwch  mewn Rwsieg a Sbaeneg yn ogystal â rhoi tro ar Eidaleg, Hindi ac Iseldireg ymysg ieithoedd eraill.

Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Gwfaint St Winefride yn Ffynone, swydd gyntaf Bernice oedd athrawes gelf mewn ysgol uwchradd fodern i fenywod ar Ddociau Abertawe cyn symud i ysgol gyfun newydd ym Mhort Talbot lle dechreuodd addysgu ychydig o Ffrangeg ac Almaeneg i'r chweched dosbarth.Yma cyfarfu â'i ffrind a'i thiwtor Ffrangeg Kathleen Hennessy a’i helpodd hi ar ôl iddi gofrestru fel myfyriwr allanol ym Mhrifysgol Llundain.

Meddai Bernice: "Diolch iddi ym 1968 enillais fy ngradd BA. Aethon ni ymlaen wedyn i ennill ein lefelau A mewn Sbaeneg, gan fynychu llawer o gyrsiau haf yn Sbaen.

"Ym 1969 daethom i Bermuda, ac enillais fy ngradd BA mewn Almaeneg ym 1972.Cynyddodd ein diddordeb mewn Sbaeneg, ac ar ôl un haf gwych yn Salamanca, cawson ni gyfle i gwblhau MA mewn Sbaeneg ym Mhrifysgol Salamanca. Roedd yn amser gwych na fydda i byth yn ei anghofio.

"Yn hwyrach, roeddwn eisiau cyfnerthu fy amrywiaeth o astudiaethau a diddordebau - hanes, llenyddiaeth, celf, cerddoriaeth, cymdeithaseg, crefydd - ac enillais MA (Y Dyniaethau) o Brifysgol Talaith Califfornia Dominguez Hills, gyda GPA 4.0 (y cyflawniad academaidd uchaf posib yn system addysgol yr Unol Daleithiau).

"Nawr, yn 92 mlwydd oed, rydw i wedi cwblhau fy nhraethawd ymchwil MPhil. Rydw i wedi treulio fy mywyd yn astudio a bydda i'n parhau i wneud hynny cyn i fi ymadael am rywle gwell. Rwy’n teimlo'n fodlon ar lawer yn fy mywyd, ac yn ddiolchgar i’r lleianod da a ddechreuodd fy nhaith ar y llwybr i ddysgu yn fy ysgol gwfaint."

Rhagor o wybodaeth am astudio Ieithoedd Modern yn Abertawe

 

Rhannu'r stori