Professor Thomas Wilkinson

Yr Athro Thomas Wilkinson

Athro, Biomedical Sciences

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
137
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gan Dr Wilkinson brofiad helaeth ym maes rhyngweithiadau rhwng organebau lletyol a phathogenau, gan ddefnyddio modelu in vitro mewn celloedd epithelaidd, modelau gwaed cyfan ac anifeiliaid. Mae Dr Wilkinson yn gweithio i adnabod marcwyr defnyddiol a fydd yn helpu i ragfynegi ffactorau risg mewn perthynas â datblygu heintiau difrifol mewn pobl ac anifeiliaid. Mae ganddo dros 40 o gyhoeddiadau ym maes organebau lletyol a phathogenau, yn amrywio o fodelu ar sail meithriniad celloedd in vitro a modelau arbrofol in vivo i fodelu gwaed cyfan ex vivo. Mae wedi sicrhau cyllid grant cystadleuol gwerth dros £2 filiwn. Mae'n Athro Cysylltiol ac mae'n arwain y grŵp Microbioleg a Chlefydau Heintus ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn symud i Abertawe (2008). bu'n Ymchwilydd Ôl-ddoethurol yng Nghaeredin (2004-2008) yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Meddygol ar gyfer Ymchwil Llid ac yn Seattle yn Sefydliad Hope Heart (2001-2004) lle bu'n gweithio ar effeithiau llidus y

matrics allgellog. Enillodd Dr Wilkinson BSc mewn Ffarmacoleg gan Brifysgol Caerfaddon (1997), a PhD gan Brifysgol Cymru (2001).

Meysydd Arbenigedd

  • Rhyngweithiadau rhwng organebau lletyol a phathogenau
  • Biofarcwyr diagnostig newydd
  • Imiwnedd i facteria
  • Imiwnedd rhwystrol a chelloedd epithelaidd
  • Heintiau ymledol
  • Staphylococcus epidermidis ac S. aureus
  • Rhywogaethau Escherichia coli a Campylob

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Wilkinson yn cyfrannu at fodiwlau israddedig niferus, sy'n amlygu ei arbenigedd a'i ddiddordebau ym meysydd bioleg celloedd, imiwnoleg, clefydau heintus a rôl y microbiom mewn rhyngweithiadau rhwng organebau lletyol a phathogenau. Mae Dr Wilkinson bellach yn oruchwyliwr ôl-raddedig profiadol. Mae wedi cefnogi nifer o brosiectau i gael eu cwblhau'n llwyddiannus, ar lefel MSc drwy Ymchwil a PhD. Mae hefyd wedi arholi graddau ôl-raddedig yn fewnol yn Abertawe ac yn allanol ledled y DU.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau