Professor Simon Bott

Yr Athro Simon Bott

Athro, Chemistry

Cyfeiriad ebost

429
Trydydd Llawr
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Graddiais gyda BSc o Brifysgol Bryste ym 1983 ac yna symudais i’r Unol Daleithiau i astudio ar gyfer Doethuriaeth ym Mhrifysgol Albama. Ar wahân i flwyddyn ôl-ddoethurol yn Rhydychen (yn 1987, gyda’r Athro Mike Mingor) penderfynais barhau yn yr UDA nes i mi ddychwelyd i’r DU ym mis Medi 2016 er mwyn helpu i greu’r Adran Gemeg hyfryd newydd yma yn Abertawe. Yn ystod y deg ar hugain a mwy o’r blynyddoedd hynny, treuliais flwyddyn yn MIT yn gweithio gyda’r Athro Steve Lippard ac yna roeddwn mewn swyddi cyfadran ym Mhrifysgolion Alabama (1989 i 1990), Gogledd Texas (1990 I 1997) a Houston (1997 i 2016).

Roeddwn i’n canolbwyntio ar waith ymchwil traddodiadol yn y maes cemeg am hanner cyntaf fy ngyrfa. Roedd fy ymdrechion fy hun yn tueddu tuag at gemeg anorganig cyfansoddion cyfryngau organig. Yn ogystal, roeddwn i’n ffodus o fod yn rhan o gydweithrediadau lle roeddwn i'n gemegwr strwythurol gyda phobl fel Malcolm Green, Paul Beer a Steve Cooper yn Rhydychen, Brian Johnson yng Nghaergrawnt, Barry Sharpless yn MIT, Andy Barron yn Harvard a Rice, a llawer mwy o gemegwyr gwych a chyfeillion. Mae fy mynegai-h yn 49 ac mae gennyf bron i 400 o gyhoeddiadau o ganlyniad i’r ymdrechion hyn.

O tua 2000, fodd bynnag, symudodd fy niddordebau’n raddol o’r labordy ymchwil i amgylchedd y myfyrwyr o ran addysgu traddodiadol ac ymgysylltu â myfyrwyr. Addysgais 45,000 a mwy o fyfyrwyr yn ystod fy nghyfnod yn yr UDA, yn bennaf yn y dosbarthiadau blwyddyn gyntaf ond hefyd mewn dosbarthiadau organig soffomor ac mewn dosbarthiadau anorganig ar gyrsiau gradd ac ôl-radd. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i’n gallu datblygu nifer o strategaethau gwahanol yn yr ystafell ddosbarth, ac mae llawer ohonynt wedi trosglwyddo’n dda i’n hadran newydd yma yn Abertawe. Yn ystod fy ngyrfa, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus o gael 21 o wobrau ar draws y brifysgol, am addysgu, cynghori myfyrwyr ac ymgysylltu â myfyrwyr. Derbyniais gydnabyddiaeth talaith gyfan yn 2012 hefyd drwy gael fy enwi yn Piper Professor, un o blith 10 yn unig yn nhalaith Texas.