Dr Meghdad Fazeli

Dr Meghdad Fazeli

Uwch-ddarlithydd, Electronic and Electrical Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602768

Cyfeiriad ebost

116
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni
Campws y Bae

Trosolwg

Nid yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ddewis mwyach, ond yn fater brys i achub y blaned rhag trychineb. Mae datgarboneiddio systemau pŵer, sy’n ffynhonnell bwysig o allyriadau carbon deuocsid, yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni'r targedau ac i achub y blaned rhag trychineb wedi’i greu gan bobl.

Ers 2007 mae ymchwil Dr Fazeli wedi canolbwyntio ar integreiddio a rheoli ynni adnewyddadwy gyda'r systemau pŵer.

Mae treiddiad cynyddol unedau ynni adnewyddadwy wedi bod yn achosi heriau niferus i weithredwyr y rhwydwaith ac mae wedi gosod y rhwydweithiau pŵer ar drothwy ansefydlogrwydd. Mae cydbwyso’r cynhyrchu ysbeidiol â'r galw, lleihau inertia'r system, a lleihau Lefel Cylched Byr ymysg yr heriau y mae rhwydweithiau pŵer yn eu hwynebu wrth i fwy o ynni adnewyddadwy gael ei integreiddio â'r grid.

Nod ymchwil Dr Fazeli yw darparu atebion arloesol i'r heriau hyn, er mwyn galluogi rhwydwaith trydan di-garbon.

Oherwydd ei ymchwil ar Beiriannau Cydamserol Rhithwir, gwahoddwyd Dr Fazeli gan y Grid Cenedlaethol (ESO) i ymuno â'u gweithgor arbenigol ar VSM, lle cyfrannodd at ddatblygu'r manylebau technegol ar gyfer VSM.

Dr Fazeli hefyd yw sylfaenydd/cyfarwyddwr Innoverters-Ltd, cwmni sy'n deillio o Brifysgol Abertawe ac sydd â’r nod o ddarparu ymgynghoriaeth ac atebion arloesol ar gyfer heriau systemau pŵer yn y dyfodol (yn seiliedig ar ei ddyfeisiadau).

Mae dull addysgu Dr Fazeli, sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, yn defnyddio dulliau "Dysgu Cyfunol" i roi amrywiaeth o adnoddau i fyfyrwyr ar gyfer dysgu dwfn a gwell. Er enghraifft, mae Dr Fazeli yn recordio ei holl ddarlithoedd, yn lanlwytho nodiadau darlithoedd ymlaen llaw, ac yn ymgorffori modelu gyda MATLAB-SIMULINK i'w ddarlithoedd.

Meysydd Arbenigedd

  • Systemau Pŵer
  • Electroneg Pŵer
  • Gridiau micro/clyfar
  • Peiriannau Cydamserol Rhithwir
  • Gwasanaethau ategol mewn systemau pŵer yn y dyfodol
  • Ansawdd pŵer
  • Systemau Rheoli Ynni
  • Rhagolygon cynhyrchu a llwytho gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dr Fazeli yw cydlynydd y modiwlau canlynol:

EG-342: Systemau Pŵer
EGLM07: Systemau Pŵer gyda Phrosiect
EGLM05: Systemau Pŵer Uwch
EGLM114: Astudiaeth Achos Gyfrifiannol mewn Peirianneg Pŵer ac Ynni Cynaliadwy
EG-D05 Traethawd MSc - Peirianneg Drydanol

Cydweithrediadau