Trosolwg
Mae Dr Kam Tang yn Athro (cadair bersonol) ym Mhrifysgol Abertawe gan arbenigo mewn ecoleg plancton a bioddaeargemeg mewn amgylcheddau morol a dŵr croyw. Mae plancton, sy’n cynnwys feirysau, bacteria, ffytoplancton, protosoad a metasoad sŵoplancton, nid yn unig i gyfrif am y rhan fwyaf o’r biomas dyfrol ac yn sylfaen i’r gadwyn fwyd ddyfrol, ond mae hefyd yn llywio’r rhan fwyaf o brosesau bioddaeargemeg yn y golofn ddŵr. Mae gwaith ymchwil Kam yn cynnwys arsylwadau maes, arbrofi a modelu, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol.