Professor Juan Mareque-Rivas

Yr Athro Juan Mareque-Rivas

Athro, Chemistry
438
Trydydd Llawr
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Graddiodd yr Athro Mareque-Rivas o Brifysgol Strathclyde ac Universidade de Santiago de Compostela gyda graddau mewn Cemeg a Chemeg Gymhwysol, gan arbenigo mewn cemeg anorganig, ffisegol a fferyllol. Gwnaeth ei Ddoethuriaeth (1995-98) mewn cemeg uwchfoleciwlaidd ym Mhrifysgol Missouri-St Louis ac yna gwnaeth waith ymchwil ôl-ddoethurol yn MIT yn labordy Steve Lippard ym maes metelonewrogemeg (1998-2000). Sefydlodd ei grŵp ymchwil annibynnol yn yr EastChem School of Chemistry ym Mhrifysgol Caeredin (2000-11). Derbyniodd Swydd Athro Ymchwil Ikerbasque i ymuno â’r Centre for Cooperative Research in Biomaterials (CIG biomaGUNE) yn San Sebastian, a ffurfiwyd yn ddiweddar iawn, lle sefydlodd y Theranostic Nanomedicine Laboratory a lle’r oedd yn Arweinydd Grŵp ar ei gyfer. Wrth ddychwelyd i’r DU, cafodd ei benodi gan Brifysgol Aberdeen i gychwyn rhaglen Beirianneg Biofeddygol yn yr Ysgol Beirianneg. Yn ystod 2016-17, ymunodd â Phrifysgol Abertawe fel Athro Ymchwil, gan wasanaethu fel Cyd-Bennaeth yr Adran (2016-18) ac yn Bennaeth Ymchwil (2016-21) yn yr Adran Gemeg Newydd.

Meysydd Arbenigedd

  • Bioddeunyddau
  • Imiwnoleg Gemegol
  • Deunyddiau a Pholymerau
  • Cemeg Bioanorganig
  • Cemeg Uwchfoleciwlaidd
  • Cemeg Bioddynwaredol a Bioysbrydoledig
  • Brechlynau
  • Imiwnotherapi Canser
  • Delweddu Moleciwlaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae dulliau’r gwyddorau cemegol a deunyddiau yn darparu cyfleoedd sylweddol ym maes ymchwil feddygol. Ein prif ddiddordeb yw’r ffordd y gellir eu cymhwyso gyda’r nod o gael modiwleiddio imiwnedd wedi’i reoli er mwyn gwella gallu systemau imiwnedd i atal a thrin clefydau. Mae’r gwaith ymchwil amlddisgyblaethol wedi’i dargedu tuag at ddatblygu platfformau theranostig (therapi + diagnosis) ar gyfer clefydau heintus, awto-imiwn a chanser.

Datblygu moleciwlau a bioddeunyddiau imiwnofodylaidd. Mae ein strategaethau synthetig yn manteisio ar hunan-gydosodiad wedi’i gyfeirio a threfn er mwyn lleihau nifer y camau synthetig a sicrhau gweithredu effeithlon ar raddfa fwy ac addasu rhwydd wrth gynhyrchu gan ddefnyddio arferion gweithgynhyrchu da (GMP). Mae ymatebion cemoddewisol a chlymiad bio-orthogonol a dulliau cyfunedd sy’n benodol i’r safle yn cyflwyno biofoleciwlau i’r targed yn y modd gorau bosibl. Rydym yn creu dyfeisiau bioddeunydd y gellir eu mewnblannu er mwyn modiwleiddio’n lleol y system imiwnedd.

Astudiaethau ar y rhyngwyneb imiwnoleg cemeg-cemegol bio-anorganig. Rydym yn archwilio sut gall rhai strwythurau a swyddogaethau biolegol sylweddau biolegol anorganig (e.e. cemeg bioanorganig haearn, metaloensymau a (bio)fineralau â strwythurau a ddiffinnir) fodiwleiddio ymatebion imiwnedd. Rydym yn gweithio gyda metalogyffuriau a pro-gyffuriau (e.e. cyfryngau gwrthganser sy’n seiliedig ar blatinwm) a chyfryngau delweddu clinigol – wedi’u hail-gynllunio/ailbwrpasu i sbarduno a chynyddu imiwnedd gwrth-diwmor, i ecsbloetio neu ailraglennu microamgylchedd y tiwmor er mwyn gwella imiwnotherapi canser, ac i fonoitro’r system imiwnedd a’r imiwnotherapi.

Datblygu platfformau brechlyn wedi’u rhaglennu’n gemegol. Yma mae ein gwaith ymchwil yn ceisio datblygu strategaethau i reoli’r broses gydosod/datosod wrth y targed biolegol, er mwyn sbarduno actifadu biolegol drwy ysgogiad mewnol/allanol, i ddefnyddio prif lwyth therapi cyfunol, i hyrwyddo’r defnydd cellol o neo-antigenau peptid/mRNA i greu brechlynau personol ac ati.