Trosolwg
Rwyf yn astudio ymateb rhanbarthau rhew parhaol alpaidd gogleddol i newidiadau yn yr hinsawdd dros raddfeydd gofodol-amserol amrywiol. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar rew parhaol, dynameg llystyfiant a rhyddhau carbon. Defnyddiaf beilleg (dadansoddi paill) i ailadeiladu cynulliadau llystyfiant diweddar a synhwyro o bell i fodelu tymereddau arwyneb y tir o'r gorffennol (ar raddfa ddegawdol) a gwyrddni arwyneb y tir (NDVI). Hefyd mae gennyf ddiddordeb yn y rheolaethau gwahanol sydd gan nodweddion gwahanol yn yr ecosystem a phrosesau geomorffolegol o ran rhyddhau carbon o arwyneb y ddaear mewn amgylcheddau amrewlifol. Fy mhrif ardal astudio yw Jotunheimen yn ne Norwy.
Mae gennyf PhD mewn Daearyddiaeth Ffisegol (Prifysgol Abertawe, 2022) ac MSc mewn Gwasanaethau Ecosystemau (Prifysgol Caeredin, 2015) a BA Daearyddiaeth ac Astudiaethau Datblygu (Coleg y Brenin Llundain, 2013).