Dr Zhaoxin Ren

Uwch-ddarlithydd, Aerospace Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987139

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A_203
Ail lawr
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Wedi imi ennill fy ngraddau MSc a PhD yn 2014 a 2015 o Brifysgol Tsinghua, Tsieina, ymunais â Phrifysgol Northwestern Polytechnical, Tsieina, fel Athro Cynorthwyol. Yn 2019 dechreuais swydd cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Warwig, y DU. Ar hyn o bryd rwy'n Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Awyrofod a myfi yw prif gyswllt Prifysgol Abertawe yng Ngrŵp Thema Hydrogen UK-ARC.

Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall gwyddoniaeth sylfaenol meysydd: llifau amlwedd aflonydd, llifau adweithiol, hydrogen cryogenig, ffrwydro, ac effaith y rhain ar yriant awyrofod uwch a systemau trosi ynni glân.

Meysydd Arbenigedd

  • Deinameg hylifau cyfrifiadol llifau cywasgadwy, llifau amlwedd, a llifau adweithiol.
  • Hylosgi uwchsonig
  • Ffrwydro.
  • Hylosgi ar gyfer gyriant awyrofod uwch.
  • Cymwysiadau ynni hydrogen megis rhyddhau dan wasgedd, jetiau hydrogen