Dr Denise Hill

Dr Denise Hill

Athro Cyswllt mewn Seicoleg Chwaraeon, Sport and Exercise Sciences

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A126
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Yn ddiweddar ymunais â Phrifysgol Abertawe o Brifysgol Portsmouth, ac rwyf wedi bod yn ddarlithydd seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff ers dros 15 mlynedd. Rwyf wedi cwblhau PhD yn astudio tangyflawni o dan bwysau mewn golff elît, MSc mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Caerwysg, a BSc (anrh) mewn Gwyddor Chwaraeon ac Addysg Gorfforol o Brifysgol Loughborough.

Rwyf hefyd yn Seicolegydd Siartredig BPS, Gwyddonydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff Achrededig BASES, ac rwyf ar hyn o bryd ar Fwrdd Golygyddol The Sport Psychologist. Mae fy niddordebau ymchwil a'm gwaith cymhwysol yn canolbwyntio ar seicoleg perfformiad, ac yn benodol, lliniaru tangyflawni o dan bwysau. Yn unol â hynny, rwy'n cynnig cefnogaeth seicolegol i athletwyr elît ac amatur o fewn ystod eang o chwaraeon (e.e. hoci, marchogaeth, snwcer, rygbi, dyfarnu rygbi'r undeb, a nofio) ond rwy’n gweithio'n bennaf gyda golffwyr proffesiynol ac elît yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.

Ar hyn o bryd rwy'n arwain ar y modiwl seicoleg chwaraeon cymhwysol ar y rhaglen gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff israddedig, ac yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr ymchwil MSc a PhD sy’n astudio seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff.