Dr Daniel Curtis

Athro Cyswllt, Chemical Engineering

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
410
Pedwerydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae

Trosolwg

Mae diddordebau Dr Curtis yn cynnwys datblygu rheometreg uwch ar gyfer astudio Hylifau Cymhleth.

Mae ei waith ar weithgynhyrchu uwch a chymwysiadau gofal iechyd yn cynnwys technegau ar gyfer astudio ymatebion microstrwythurol hylifol i lifoedd o dan amodau'r broses weithgynhyrchu a pherthnasedd clinigol.

Mae ei astudiaethau efelychu rheometrig, delweddu a dynameg moleciwlaidd o fiopolymerau wedi cynnwys dadansoddiad cyfunol visgoelastig a sbectrol o ddatblygiad rhwydwaith gel ac wedi cyfrannu at well dealltwriaeth o esblygiad clotiau gwaed.

Mae hefyd yn datblygu dulliau NMR a microrheometrig ar gyfer astudio llif o fewn solidau meddal a hylifau cymhleth.

Meysydd Arbenigedd

  • Rheometreg
  • Haemorheoleg
  • Llif Hylif nad yw'n Newtoniaidd
  • Trylediad NMR
  • Cydgasglu a Dadansoddi Ffractal
  • Microsgopeg Fflworoleuedd