ILS2
Alison Porter

Dr Alison Porter

Athro Cyswllt mewn Ymchwil i’r Gwasanaethau Iechyd, Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602057

Cyfeiriad ebost

204
Ail lawr
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Alison yn arweinydd ymchwil yn yr astudiaeth o drefniadaeth a chyflwyniad gwasanaethau iechyd. Mae ymchwil gwasanaethau iechyd yn rhan o ymrwymiad Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe i ymchwil ymgysylltiol, byd go iawn sydd â'r nod o wella darpariaeth gofal iechyd er budd cleifion, y rhai sy'n gweithio yn y maes, a'r cyhoedd yn ehangach. Mae tîm ymchwil y gwasanaethau iechyd yn arbenigo mewn gofal heb ei drefnu a gofal brys, ac mae hefyd yn delio â mentrau mewn gofal sylfaenol a chymunedol i leihau'r defnydd o ofal iechyd heb ei drefnu, megis modelu risg rhagfynegol a rheoli cyflyrau cronig.

Mae Alison yn gyd-arweinydd gofal brys a gofal heb ei drefnu ar gyfer Canolfan PRIME Cymru, y ganolfan ymchwil sy’n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a gofal brys, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddatblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr http://www.primecentre.wales/.

Ymchwilydd ansoddol yw Alison yn bennaf ac mae’n cydweithio’n aml ar astudiaethau dulliau cymysg, gan gynnwys y rheiny sy’n defnyddio setiau data cysylltiedig dienw. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn agweddau sefydliadol ar ddarparu gofal iechyd, gan gynnwys gwneud penderfyniadau ac agweddau at risg mewn rhyngweithiadau gofal iechyd, gweithredu technoleg, rôl data wrth gomisiynu, cyfathrebu rhwng darparwyr gwasanaethau a chleifion, a rôl cleifion a’r cyhoedd mewn siapio cyflwyno gwasanaethau a'r agenda ymchwil. 

Mae prosiectau ymchwil cyfredol yn cynnwys: 

  • STRETCHED – gwerthusiad o reolaeth achosion ar gyfer defnyddwyr dwyster uchel y gwasanaethau ambiwlans brys - wedi'i ariannu gan NIHR HS&DR 
  • INFORM - cyd-gynhyrchiad o ganllawiau ar gyfer gofalu am bobl sy’n defnyddio gwasanaethau ambiwlans brys yn ddwys – a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 
  • GPs in EDs – gwerthusiad o effaith modelau gwahanol o ddefnyddio meddygon teulu mewn adrannau achosion brys neu ochr yn ochr â nhw – wedi’i ariannu gan NIHR HS&DR 
  • PARE – an evaluation of rotational paramedics in the Pacesetter initiative – ariannwyd gan Lywodraeth Cymru/Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
  • ARRIVE – astudiaeth ddichonoldeb yn gwerthuso effaith parafeddygon yn gweithio ym maes gofal sylfaenol - wedi'i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

 

Meysydd Arbenigedd

  • Ymchwil Gwasanaethau Iechyd
  • Dulliau ansoddol
  • Gofal brys a heb ei drefnu