Dr Anna Powell

Dr Anna Powell

Darlithydd Genomeg, Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - 107
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Graddiodd Anna o Brifysgol Abertawe gyda gradd BSc mewn Geneteg Feddygol dosbarth cyntaf yn 2011. Ymunodd â'r grŵp Niwrowyddoniaeth Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Abertawe ar ôl cwblhau ei PhD yn 2016. Mae ymchwil Anna wedi canolbwyntio'n bennaf ar geneteg epilepsi a chlefydau niwrolegol prin eraill. Mae ganddi arbenigedd mewn trin a thrafod a dadansoddi data dilyniannu exom cyfan a genom cyfan gan gynnwys cymhwyso offer a chronfeydd data genomig in silico. Mae gan Anna brofiad o fiofancio, gan gynnwys paratoi a chyflwyno samplau i astudiaethau a chonsortia rhyngwladol. Hefyd, mae gan Anna brofiad ymchwil ôl-ddoethurol mewn geneteg canser a geneteg facterol. 

Ar hyn o bryd, mae Anna'n addysgu ar raglenni BSc Geneteg, Geneteg Feddygol ac Iechyd Poblogaethau a'r Gwyddorau Meddygol a'r rhaglen MSc mewn Meddygaeth Genomig.

Meysydd Arbenigedd

  • • Geneteg a Genomeg
  • • Biowybodeg
  • • Epilepsi
  • • Camffurfiadau Cortigol
  • • Biofancio
  • • Organoidau Perfeddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

PMGM00 Biowybodeg ar gyfer Dadansoddi Genomig (cydlynydd y modiwl)

PMGM16 Genomeg mewn Clefydau Etifeddol Cyffredin a Phrin (cydlynydd y modiwl)

PM152 Genomeg y Boblogaeth (cydlynydd y modiwl)