Manylion y Cwrs
Mae'r cwrs hwn, a gefnogir gan Drafnidiaeth Cymru, yn cael ei addysgu ar y cyd gan 10 arweinydd diwydiannol sydd â phrofiad ac arbenigedd sylweddol fel contractwyr ac ymgynghorwyr. Mae'n ymdrin yn eang â dulliau adeiladu a gwaith dros dro sy'n gysylltiedig ag isadeiledd:
- Tunnelling, shafts and deep cuttings – gan Roy Slocombe (Cyn-Reolwr Gyfarwyddwr, Herrenknecht);
- Construction issues across civil engineering and in industrial contexts – gan Rob Millard (Rheolwr Gyfarwyddwr, DE-CS);
- Understanding soils, trenching, sheet piling and cofferdams – gan Ray Filip (Golygydd gwerslyfrau ICE TW);
- Geotechnical and slopes – gan Tim Lohmann (Cyfarwyddwr, Keltbray);
- Bridge erection, jacking and heavy moves – gan Ryan Dillon (Rheolwr Peirianneg, BAM);
- Special considerations in specific operational sectors and situations – gan Bill Hewlett (Cyn Gyfarwyddwr, Costain; Cyn Is-lywydd ICE);
- Marine – floating plant and equipment – gan Paul Boddy (Cyfarwyddwr Technegol, Richter);
- Marine – shore works– gan Richard Fletcher (Peiriannydd Rhanbarthol, BAM);
- Working platform– gan Stefano Quintavalle (Pennaeth Gwaith Dros Dro, Skanska).
Mae'r cwrs yn rhan o'n rhaglen MSc amser llawn ar gyfer Rheoli Adeiladu. Mae hefyd ar gael i ddysgwyr proffesiynol allanol fel modiwl Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) unigol. Bydd gan y dysgwyr DPP fynediad llawn at gynnwys y modiwl yn yr un modd â’r myfyrwyr amser llawn.
Lefel y Cwrs
Cwrs DPP unigol, gyda thystysgrif DPP gan Brifysgol Abertawe.
Pwy Ddylai Astudio’r Cwrs?
Peirianwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn gwaith dros dro ac mae angen hyfforddiant yn y maes ac mewn dulliau adeiladu arnynt.
Dyddiad
Dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror.
Hyd
Cynhelir y cwrs dros gyfnod o 10 wythnos, gyda darlith/trafodaeth ddosbarth 3 awr o hyd bob wythnos. Cynhelir yr holl ddarlithoedd yn fyw dros gyswllt fideo, a byddan nhw'n cael eu recordio er mwyn galluogi pobl i gael mynediad atynt all-lein.
Asesu
Ni chaiff myfyrwyr DPP eu hasesu/ harholi, ond mae angen iddynt gymryd rhan ym mhob elfen o'r cwrs a dangos eu bod wedi ymrwymo’n llawn i’r cwrs drwy gwblhau'r profion cwis ar-lein.
Cost
£600
Lleoliad
Cynhelir y cwrs ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Gall myfyrwyr datblygiad proffesiynol parhaus astudio’r cwrs o bell trwy gyswllt fideo ar-lein.
