Manylion y Cwrs
Mae'r cwrs wedi'i addysgu ar y cyd gan 7 arbenigwr y diwydiant o Richter, Crouch Waterfall, RDG, BAA a Herrenknecht etc. Mae'n darparu cynnwys eang o weithiau dros dro gan gynnwys:
- Cyflwyniad, prosesau a pheirianneg gwaelodol;
- Ffugwaith, ffurfwaith, sgaffaldwaith a phalisiau;
- Geotechnegol;
- Tanddaearol;
- Morol;
- Symud, codi a phontydd.
Mae'r cwrs yn rhan o'n rhaglenni MSc Peirianneg Sifil a Pheirianneg Strwythurol amser llawn, ac mae hefyd ar gael ar gyfer dysgwyr proffesiynol allanol fel modiwl datblygiad proffesiynol parhaus annibynnol.
Bydd gan y dysgwr datblygiad proffesiynol parhaus fynediad llawn at gynnwys y modiwl yn yr un ffordd â'r myfyrwyr amser llawn. Bydd Prifysgol Abertawe'n dyroddi tystysgrif datblygiad proffesiynol parhaus i bob myfyriwr allanol ar ddiwedd y cwrs.
Arbenigwyr y Diwydiant

Lefel y Cwrs
Cwrs datblygiad proffesiynol parhaus annibynnol, gyda thystysgrif datblygiad proffesiynol parhaus o Brifysgol Abertawe.
Pwy Ddylai Astudio’r Cwrs?
Peirianwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn hyfforddiant mewn gweithiau dros dro, neu sydd angen hyfforddiant ynddo.
Dyddiad
Dechrau o wythnos gyntaf mis Hydref.
Hyd
Mae'n cael ei gyflwyno dros gyfnod o 11 wythnos, gyda darlith neu drafodaeth 2 awr o hyd bob wythnos. Am y chwe wythnos gyntaf, mae darlith dwy awr o hyd sy'n cynnwys un pwnc o'r rhestr uchod. Am y pum wythnos olaf, mae trafodaeth dwy awr o hyd bob wythnos pan fydd myfyrwyr yn gofyn cwestiynau neu’n trafod y prosiectau grŵp â'r darlithydd. Bydd yr holl ddarlithoedd a’r trafodaethau grŵp yn fyw ac yn cael eu cyflwyno drwy ddolen fideo, a byddant yn cael eu recordio ar gyfer mynediad all-lein.
Asesu
Nid yw myfyrwyr datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu hasesu/eu harholi, ond mae angen iddynt gymryd rhan ym mhob elfen o'r cwrs a dangos ymrwymiad llawn drwy gwblhau'r profion cwis ar-lein a mynychu'r trafodaethau prosiect grŵp fel mentoriaid prosiect. Rydym wedi darganfod bod paru myfyrwyr MSc amser llawn â dysgwyr proffesiynol mewn prosiectau grŵp yn rhoi buddion gwerthfawr i'r naill ochr a’r llall.
Cost
£400
Lleoliad
Cynhelir y cwrs ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. I fyfyrwyr datblygiad proffesiynol parhaus, gall y cwrs gael ei gwblhau'n rhithwir drwy ddarlithoedd ar-lein.
Sut i Gyflwyno Cais
Cysylltwch â'r Athro Chenfeng Li (c.f.li@abertawe.ac.uk) am gyfarwyddyd a gwiriadau cymwysterau