Manylion y Cwrs
Mae'r cwrs hwn, a gefnogir gan TWf, yn cael ei addysgu ar y cyd gan 10 arbenigwr diwydiannol sydd â phrofiad ac arbenigedd sylweddol fel contractwyr ac ymgynghorwyr (e.e Multiplex, Roberson, Keltbray, SRM, John F Hung, RDG, ac EDF etc.) Mae'n darparu cwmpas eang o weithiau dros dro, gan gynnwys:
- Dulliau adeiladu yn y cyd-destun trefol - gan Siu Mun Li;
- Sefydlu'r safle a'i agor - gan Jemma Quin;
- Ffurfwaith fertigol - gan Tim Lohmann;
- Ffurfwaith llorweddol - gan Ray Filip;
- Ffugwaith, taro ac ychwanegu strwythurau dros dro - gan Rachel Joshua;
- Sgaffaldwaith, gwarchod cyrion, mynediad fertigol - gan David Milward;
- Defnyddio craeniau, platfformau codi a gweithio - gan Craig Hook;
- Gosod seilbyst - gan Matthew Parker;
- Torri, cerfio, adnewyddu a dymchwel - gan Davinder Singh;
- Dulliau Adeiladu Modern – gan Andrew Dewdney.
Mae'r cwrs yn rhan o'n rhaglen MSc amser llawn ar gyfer Rheoli Adeiladu. Mae hefyd ar gael i ddysgwyr proffesiynol allanol fel modiwl Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) unigol.
Bydd gan y dysgwyr DPP fynediad llawn at gynnwys y modiwl yn yr un modd â’r myfyrwyr amser llawn. Bydd Prifysgol Abertawe'n rhoi tystysgrif DPP i bob myfyriwr allanol ar ddiwedd y cwrs.
Lefel y Cwrs
Cwrs DPP unigol, gyda thystysgrif DPP gan Brifysgol Abertawe.
Pwy ddylai astudio’r cwrs?
Peirianwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn gweithiau dros dro ac sydd angen hyfforddiant yn y maes.
Dyddiad
Dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Hydref.
Hyd
Cynhelir y cwrs dros gyfnod o 10 wythnos, gyda darlith / trafodaeth ddosbarth 3 awr o hyd bob wythnos. Cynhelir yr holl ddarlithoedd yn fyw dros gyswllt fideo, a byddan nhw'n cael eu recordio er mwyn galluogi pobl gael mynediad atynt all-lein.
Asesiad
Ni chaiff myfyrwyr DPP eu hasesu / eu harholi, ond mae angen iddynt gymryd rhan ym mhob elfen o'r cwrs a dangos eu bod wedi ymgysylltu'n llawn â’r cwrs drwy gwblhau'r profion cwis ar-lein.
Cost
£600
Lleoliad
Cynhelir y cwrs ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Ar gyfer myfyrwyr DPP, gellir cwblhau'r cwrs o bell drwy gyfrwng darlithoedd ar-lein.
Sut i Gyflwyno Cais
Cysylltwch â'r Athro Chenfeng Li (c.f.li@abertawe.ac.uk) am gyfarwyddiadau a gwiriadau cymhwysedd.