Yn y bennod hon, mae Mandy yn siarad ag Emma James, mae hi'n uwch ddarlithydd mewn cyfrifeg a chyllid yma ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi’n gyfrifydd â chymwysterau proffesiynol ac yn Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig. Mae'n Uwch Gymrawd o Advance AU ac mae ganddi gyfoeth o brofiadau diwydiannol, ac mae'n bleser ganddi rannu gyda'i myfyrwyr mewn ffyrdd creadigol iawn.  

Mae ei dulliau addysgu arloesol a'i gwybodaeth arbenigol am e-ddysgu wedi ei galluogi i gyflawni'r canlyniadau uchaf erioed o ran canlyniad gradd ac adborth myfyrwyr. Mae'r modiwlau y mae Emma wedi'u creu wedi cael eu nodi'n benodol gan gyflogwyr am eu gwerth galwedigaethol, ac fe'u canmolir gan fyfyrwyr sydd wedi nodi bod y modiwlau hyn yn rhoi mantais cyflogadwyedd iddynt. 

Mae Emma wedi derbyn llawer o wobrau am ei chyfraniadau at addysgu, gan gynnwys gwobr rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ar draws y brifysgol.  Gwrandewch ar y bennod hon i gael gwybod mwy, a gobeithio y cewch eich ysbrydoli. 

Gwaith celf gan Miguel Bruna 

Yn y bennod hon

Emma James

Llun o Emma James

Mandy Jack

Llun o Mandy Jack

Adnoddau Bennod