Niwed sy'n gysylltiedig â gamblo: Ysgoloriaeth Ymchwil Seicoleg PhD - Gambling Harms Research UK
Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2-26
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: UKRI
Y meysydd pwnc: Seicoleg
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Ionawr 2027
**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.
Goruchwylwyr:
- Prof Simon Dymond
- Dr Martyn Quigley
- Dr Jamie Torrance
- Dr Alice Hoon
Rhaglen astudio gydnaws: Seicoleg, Ph.D.
Dull astudio: Amser llawn
Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campws Y Singleton)
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae Canolfan GREAT ym Mhrifysgol Abertawe yn ganolfan ragoriaeth sy'n arwain yn fyd-eang ym maes ymchwil i ymddygiadau gamblo a niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Mae Canolfan GREAT yn goruchwylio ymchwil sylfaenol, gymhwysol, drosiadol a thriniaeth glinigol i liniaru effaith niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae ei haelodau yn cyd-greu ac yn lledaenu eu gwaith a arweinir gan bolisi gyda chymorth a mewnbwn pobl sydd â phrofiad personol o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.
Prifysgol Abertawe oedd Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn ôl The Times Good University Guide 2025. O ganlyniad i’n hymrwymiad i ymchwil a buddion ymarferol mae 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn cael ei hystyried yn ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021). Y gyfran o raddedigion sydd mewn cyflogaeth, yn astudio a/neu’n ymgymryd â gweithgareddau eraill yw 94% (HESA 2024).
Mae ein campysau glan môr trawiadol yn ein gwneud ni'n lleoliad dymunol sy’n denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd, ac mae ein cymuned amlddiwylliannol yn cynnig safbwynt byd-eang, gan alluogi'r rhai hynny sy'n ymuno â ni i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a fydd yn eu rhoi ar ben ffordd tuag at yrfaoedd llwyddiannus a boddhaus.
Cymhwyster
PhD
Rhaid i ymgeiswyr am PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1 a gradd meistr. Fel arall, bydd ymgeiswyr sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y DU (neu gyfwerth nad yw'n rhan o'r DU fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) nad oes ganddynt radd meistr, yn cael eu hystyried yn unigol.
Iaith Saesneg
IELTS 6.5 yn gyffredinol (heb unrhyw ran islaw 6.5) neu gymhwyster a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Mae manylion llawn ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys dilysrwydd tystysgrifau ar gael yma.
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:
Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI
(£20,780 ar gyfer 2025/26) - Gorffennaf 2026
(£21,805 for 2026/27) - Hydref 2026 ymlaen
Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £600 y flwyddyn ar gael hefyd.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon.
Gallwch gyflwyno cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Gweler Polisi Prifysgol Abertawe ar ddyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS972
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
- Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS972, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
- Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
- Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn arddangos rhybudd 'Cais Wedi'i Gyflwyno' ac yn blocio cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
1. Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
2. Anfonwch e-bost at pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chod RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb.
3. Yna bydd staff derbyn yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny.
Pwysig: Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am yr un rhaglen a dyddiad dechrau, peidiwch ag ail-ymgeisio gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir gyda chyfeiriad e-bost sy'n wahanol i'r un a ddefnyddiwyd yn eich cais gwreiddiol yn cael eu derbyn na'u hystyried.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- CV (dim mwy na 3 tudalen)
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe.
Os cânt eu rhoi ar y rhestr fer, bydd gofyn i ymgeiswyr drefnu bod dau lythyr cyfeirio ar gael.
- Datganiad personol nad yw'n hwy nag 800 o eiriau.
Awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu datganiad personol i'ch cais am ysgoloriaeth ymchwil PhD:
Mae eich datganiad personol yn gyfle i egluro pam rydych chi'n ymgeisydd addas am yr ysgoloriaethau ymchwil hyn a pham mai hwn yw'r cam cywir i chi.
Dylai arddull eich datganiad fod yn broffesiynol a chanolbwyntio'n bennaf ar eich cefndir academaidd, eich profiad ymchwil a'ch profiad gwaith perthnasol. Fodd bynnag, does dim byd yn eich rhwystro rhag cyfleu agweddau ar eich personoliaeth a'r hyn y byddech yn ei gynnig i'r rhaglen a allai fod yn wahanol i fyfyrwyr eraill.
Byddwn yn chwilio am ymwybyddiaeth dda o natur y rhaglen a bod gennych y sgiliau a'r agwedd sy'n angenrheidiol i lwyddo. Felly, dylech chi ddweud wrthym ba agweddau ar y rhaglen sy'n apelio atoch chi a pham rydych chi eisiau astudio am eich PhD yn ein prifysgolion. Dylech chi hefyd ddarparu tystiolaeth o'ch addasrwydd cyffredinol i ymgymryd â PhD, gan gynnwys eich trylwyredd academaidd, eich gallu i ddysgu'n annibynnol, eich sgiliau rheoli prosiect a'ch gallu i gynnal ymrwymiad dros gyfnod amser hir. Yn olaf, dylech drafod eich diddordeb a'ch profiad, lle bo'n briodol, ym maes ymchwil i gamblo, eich cynnig ymchwil penodol a'r sgiliau methodolegol byddwch yn eu cynnig i'r rhaglen.
Yn gyffredinol, dylai eich datganiad personol argyhoeddi'r panel dethol, pe byddem yn cynnig lle ar y rhaglen i chi, y byddech chi: (i) yn cwblhau'r PhD i safon uchel; (ii) yn addas ar gyfer y rhaglen PhD benodol hon ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd mae'n eu cynnig; a (iii) yn gwneud cyfraniad at ymchwil, polisi neu ymarfer yn y dyfodol sy'n helpu i leihau'r niwed a achosir gan gamblo.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol – nodwch gall unrhyw gynnig a wneir fod yn amodol ar y lefel briodol o Saesneg. Mae rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol i'w gweld yma).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:
ENW: Yr Athro Simon Dymond
E-BOST: s.o.dymond@abertawe.ac.uk
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.