Lauren Wheeler, MSC mewn cyfrifeg a chyllid

Myfyriwr benywaidd yn eistedd wrth ddesg yn gwenu at y camera

Graddiodd Lauren â BSc mewn Mathemateg yn 2018 a chofrestrodd ar y cwrs MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid i ehangu ei rhagolygon gyrfa. Darllenwch sylwadau Lauren:

“Roeddwn i wrth fy modd yn astudio am fy ngradd israddedig mewn mathemateg, ond roeddwn i am sicrhau bod gen i wybodaeth i’m paratoi am lwybr gyrfa penodol cyn gadael y brifysgol.

“Archwiliais i’r opsiynau ar gyfer fy ngradd meistr ac roeddwn i wedi mwynhau’r elfennau cyllid yn fy ngradd mathemateg felly penderfynais i ymgeisio am le ar y cwrs MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid. Roedd enw ardderchog gan y cwrs ac roedd yn cyd-fynd yn dda â’m diddordebau a’r yrfa roeddwn i’n gweld fy hun yn ei gwneud. Hefyd, mae wedi’i hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifyddion Siartredig Ardystiedig (ACCA), sy’n cynnwys eithriad o sefyll hyd at saith o arholiadau sylfaenol yr ACCA; dyna rywbeth sy’n ddeniadol iawn i ddarpar gyflogwyr.

“Mae astudio’r cwrs wedi rhoi mantais gystadleuol i mi eisoes am fy mod i’n gweithio’n rhan-amser i gwmni cyfrifyddu ar hyn o bryd, gan weithio gyda chleientiaid preifat ledled y DU, ochr yn ochr a’m hastudiaethau.

“Byddwn i’n argymell astudio am radd meistr i bawb sydd am arbenigo mewn maes penodol a meithrin gwybodaeth fanwl am bwnc; mae’n rhoi mantais go iawn i chi mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn.”

Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am ein rhaglen MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid.

Nnadi Emmanuel Ebuka MSC mewn iechyd cyhoeddus a hybu iechyd

Myfyriwr gwrywaidd yn rhoi cyflwyniad wrth sefyll y tu ôl i bodiwm â brandio Prifysgol Abertawe arno

Mae Nnadi yn astudio ar ein rhaglen MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd ar hyn o bryd,  ar ôl cwblhau gradd baglor mewn Gwyddor Labordy Meddygol. Mae gan Nnadi bum mlynedd o brofiad o weithio mewn labordy clinigol ar ôl graddio hefyd:

Un agwedd bwysig ar y cwrs sydd o ddiddordeb i mi yw’r ymagwedd hybu iechyd drwy rymuso, sy’n pwysleisio’r angen i rymuso unigolion a chymunedau i fod yn gyfrifol am eu hiechyd eu hunain. Yr hyn sydd mor ddiddorol am y rhan hon o’r cwrs yw ei bod yn gweld iechyd fel adnodd bywyd pob dydd, yn hytrach nag amcan byw ynddo ei hun.

Drwy gydol fy rhaglen astudio, rwyf wedi elwa o gymorth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, yn enwedig wrth gyflwyno cais am leoliad gwaith mewn iechyd cyhoeddus. Yn ogystal â’m helpu i sicrhau lleoliad gwaith da, gwnaethon nhw fy helpu gyda’r broses ymgeisio hefyd. Fydda i ddim yn anghofio’r tîm Derbyn am eu cymorth cyn i mi gyrraedd y DU. Gwnaeth eu galwadau ffôn ar ôl i mi gyflwyno cais gryfhau fy ffydd ym Mhrifysgol Abertawe cyn i mi gael y profiad go iawn hyd yn oed. Rwyf wedi argymell Prifysgol Abertawe i rai o’m cydweithwyr sydd am astudio yn y DU, ac rwy’n falch bod rhai ohonyn nhw wedi derbyn cynigion.

Fy mhrif uchelgais am y dyfodol yw bod yn ddarlithydd, a fyddai’n rhoi cyfle i mi addysgu, yn ogystal â datblygu fy niddordeb ymchwil mewn dod o hyd i ffyrdd arloesol o drin damweiniau sy’n cynnwys brathiadau neidr mewn gwledydd datblygol.

SAM MASON, LPC AC LLM MEWN YMARFER CYFREITHIOL A DRAFFTIO UWCH

Siot pen o fyfyriwr gwrywaidd yn gwisgo crys, tei a siaced siwt.

Ar ôl graddio o’r cwrs LLB, dychwelodd Sam i Brifysgol Abertawe i ddechrau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, gan gwblhau ei gwrs LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch ar yr un pryd:

Yn ystod fy mlwyddyn ar y cwrs LPC, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael cynnig contract hyfforddi gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy’n ymgymryd â’m ‘sedd’ gyntaf gan arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol ag elfennau o gyfraith gwybodaeth, hawliau dynol a chyfraith yr UE.

Llwyddais i sicrhau lleoliadau gwaith amrywiol yng Nghaerwysg lle ces i fy magu, gan gynnwys tymor prawf byr mewn siambrau sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu, lleoliad gwaith mewn adran gyfreithiol sy’n arbenigo mewn cyfraith amgylcheddol a phrofiad gwaith gyda chwmni cyfreithwyr preifat lle datblygais i ddealltwriaeth o drawsgludo preswyl, anafiadau personol ac ewyllysiau a phrofiant. Roeddwn i hefyd yn aelod o Isadran y Cyfreithwyr Iau a Chymdeithas y Gyfraith Prifysgol Abertawe.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgol y Gyfraith am ddarparu amgylchedd proffesiynol ond cyfeillgar i gwblhau’r pedair blynedd o astudio heriol ond gwobrwyol a oedd yn angenrheidiol i wneud cynnydd yn fy ngyrfa. Gallaf edrych ymlaen gan wybod y bydda i’n gallu dibynnu’n llwyr ar y sgiliau a’r wybodaeth rwyf wedi’u meithrin.

MINK YUTHIKA, MA MEWN ADDYSGU SAESNEG I SIARADWYR IEITHOEDD ERAILL (TESOL)

Myfyriwr sy’n gwisgo sbectol ac yn sefyll y tu ôl i gadair gan wenu at y camera.

Ar ôl ennill gradd baglor mewn Saesneg gan Brifysgol Mae Fah Lung, Gwlad Thai, daeth Mink i Abertawe i ymgymryd â’r rhaglen MA mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL).

Wrth i mi gwblhau fy MA TESOL, fi oedd yr unig fyfyriwr o Wlad Thai yn astudio yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau! Yn ystod fy rhaglen BA, roeddwn i’n addysgu fy ffrindiau nad oedden nhw’n astudio Saesneg fel eu prif bwnc i ddechrau ac yn gweithio fel cyfieithydd hefyd. Ar ôl graddio, sylweddolais i mai addysgu oedd fy mhrif ddiddordeb bellach ac roedd yn dechrau ymddangos fel gyrfa bosib i mi. Felly, penderfynais i astudio am radd meistr yn y  DU i ddatblygu rhagor o sgiliau proffesiynol ac yna ddychwelyd i addysgu yn fy ngwlad enedigol. Yn y diwedd, dewisais i’r rhaglen MA TESOL yn Abertawe oherwydd cynnwys y cwrs, enw da’r Brifysgol ac amgylchedd y ddinas ei hun.

Drwy gydol fy rhaglen, roeddwn i’n gwerthfawrogi cymorth yr holl ddarlithwyr. Roedden nhw’n dangos parch at y myfyrwyr ac yn ein hannog i rannu syniadau â’n gilydd yn y dosbarth. Yn bersonol, roeddwn i’n meddwl bod yr arddull ddysgu hon yn effeithiol iawn. Wrth edrych yn ôl, mwynheais fy amser yn astudio yn amgylchedd cyfeillgar y Brifysgol hon, ac mae Abertawe’n ddinas swynol. Roeddwn i’n hoffi’r profiad o fynd i siop goffi a chael paned a sgwrs gyda ffrindiau neu gerdded ar y traeth. Rwy’n gweld eisiau’r holl eiliadau hynny’n fawr!

Erbyn hyn, rwy’n ddarlithydd amser llawn, yn addysgu Saesneg yn Ysgol y Celfyddydau Rhyddfrydol ym Mhrifysgol Phayao, Gwlad Thai. I mi, roedd ennill yr MA TESOL yn gweithio fel pasbort a’m helpodd i gael gyrfa addysgu.

SHARON ARTHUR, MA MEWN CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL

Myfyriwr benywaidd yn eistedd ar y grisiau y tu allan i Abaty Singleton, Prifysgol Abertawe

O Lundain yn wreiddiol, cwblhaodd Sharon y rhaglen BA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau cyn cofrestru ar raglen MA Abertawe mewn Cysylltiadau Rhyngwladol.

Mae fy amser ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn wych. Yn ogystal â modiwlau diddorol, roedd Abertawe’n cynnig profiad gwaith o’i sbectrwm eang o leoliadau gwaith a chyfleoedd i fyfyrwyr. Yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn , ymunais i â thîm Digwyddiadau  Undeb y Myfyrwyr lle datblygais i sgiliau mewn gwasanaethau cwsmeriaid, cyfathrebu a gwaith tîm. Gwnaeth gweithio yno fy helpu i fagu hyder.

Wrth gwblhau fy MA, ces i gyfle i weithio fel Myfyriwr Llysgennad ar gyfer Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mwynheais i’r profiad hwn oherwydd rhoddodd gyfle i mi siarad â llawer o bobl, gan gynnwys myfyrwyr a oedd yn ystyried astudio yn Abertawe a’u rhieni.

Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig profiad gwaith a chyfleoedd allgyrsiol, ond mae hefyd yn helpu gyda chymorth academaidd. Mae ei Gwasanaeth Academaidd yn helpu gydag ysgrifennu traethodau, llyfryddiaethau a chyfeirnodi. Nid cyflawniad academaidd yw’r unig beth sy’n bwysig i Brifysgol Abertawe. Mae iechyd meddwl a lles myfyrwyr yr un mor bwysig – mae’n brifysgol ofalgar.

Mae fy amser yn Abertawe wedi bod yn gynhyrchiol ac yn bleserus. Rwyf wedi dysgu llawer o bethau drwy ddod yma. Rwyf wedi meithrin sgiliau sydd wedi fy mharatoi ar gyfer byd gwaith.

Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am y rhaglen MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol.