Graff sy'n dangos osgiliad sy'n gostwng

Gan y Cynghorydd Ysgrifennu i Gymheiriaid, Hayley Morgan

Fel myfyrwyr prifysgol, rydych chi'n ymdrechu'n gyson i greu gwaith academaidd sy'n creu argraff dda. Mae rhai disgyblaethau'n gofyn am brawf o gysyniadu ymchwil yn ei chamau cynnar (gweler, er enghraifft model OSOP (one sheet of paper) enwog Braun a Clarke (2006) o ddadansoddi thematig). Mae eraill yn ffafrio tablau i grynhoi enghreifftiau o ddata a fyddai fel arall yn gwneud darllen eich gwaith yn anodd. Beth bynnag yw'r aseiniad - traethawd, prosiect ymchwil neu gyflwyniad - gall defnydd effeithiol o ddelweddau, cymhorthion gweledol a thablau ychwanegu dyfnder ac eglurder at eich gwaith. Dyma sut i'w defnyddio'n ddoeth ac ychwanegu graen at eich aseiniadau.

Pam Defnyddio Elfennau Gweledol yn eich Gwaith Academaidd?

Mae delweddau, siartiau a thablau yn fwy nag addurniadau yn unig, offer cyfathrebu ydyn nhw. Er y gall rhai delweddau ymddangos yn fwy addas ar gyfer dulliau cyfathrebu eraill, megis y cyfryngau cymdeithasol, pori ac ati, gall delwedd wedi'i llunio'n dda ddangos i'r darllenydd eich bod yn cyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er enghraifft, gall tabl neu ddelwedd yn y lle priodol:

  • Symleiddio data cymhleth drwy ei gyflwyno mewn ffordd weledol.
  • Ennyn diddordeb eich cynulleidfa (darllenydd, marciwr, cyfranogwyr) drwy wneud eich gwaith yn fwy dynamig a chofiadwy.
  • Cefnogi eich dadleuon drwy enghreifftiau clir a darluniadol.

Cofiwch, dylai delweddau gyfoethogi eich cynnwys, nid tynnu'r sylw oddi wrtho. Mae'n rhaid bod pwrpas gan bob delwedd neu dabl. Sylwer, er bod tablau'n cael eu defnyddio'n aml i leihau cyfanswm geiriau, yn ôl pob golwg, peidiwch â dibynnu ar hyn yn rhy aml. Gallai hyn amharu ar eich rhuglder a'ch arddull ysgrifennu os daw'n elfen arferol o'ch gwaith.

Darlithydd yn dangos graff gwres pwysau i fyfyriwr

Arferion Gorau wrth Ddefnyddio Delweddau a Chymhorthion Gweledol

  1. Dewis Delweddau Perthnasol: Defnyddiwch ddelweddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch pwnc. Er enghraifft, os ydych chi'n trafod effeithiau newidiadau yn y boblogaeth, byddai graff o ffigurau cynyddol yn fwy effeithiol na llun generig o dorf.
  2. Sicrhau Ansawdd Uchel: Defnyddiwch ddelweddau clir â chydraniad uchel. Gall delweddau aneglur roi golwg amhroffesiynol i'ch gwaith. Cofiwch gyfeirnodi'n gywir bob amser a gwirio perchnogaeth hawlfraint pob delwedd.
  3. Dyfynnu'n Gywir: Dylech bob amser gydnabod ffynhonnell wreiddiol delwedd. Dilynwch ganllawiau dyfynnu eich sefydliad (e.e. APA, MLA) ar gyfer delweddau ac elfennau gweledol eraill.
  4. Ychwanegu Penawdau Disgrifiadol: Esboniwch beth mae'r ddelwedd neu'r eitem weledol yn ei gynrychioli. Gall penawdau ddarparu cyd-destun a sicrhau bod eich darllenwyr yn deall y perthnasedd. Mae hwn yn arfer da i'w fabwysiadu ar gyfer hygyrchedd, os bydd angen i chi gyflwyno eich gwaith i gynulleidfaoedd ehangach yn y dyfodol. Mae testun amgen yn bwysig i roi mynediad cyfartal i bobl â phob math o anabledd yn y byd academaidd a'r tu hwnt.

Manteisio i'r Eithaf ar Dablau a Siartiau

Mae tablau a siartiau'n hynod ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno data. Canllawiau i'w defnyddio'n effeithiol:

  • Cadw pethau'n syml: Peidiwch â gorlwytho tablau â gormod o ddata. Canolbwyntiwch ar y pwyntiau allweddol. Mae atodiadau ar gyfer data ychwanegol hefyd ond peidiwch â'u llenwi â data heb ei olygu.
  • Labelu'n glir: Gwnewch yn siŵr bod gan eich tabl deitl, labeli ac allwedd (os oes angen) i sicrhau eglurder.
  • Integreiddio yn y testun: Cyfeiriwch at eich tabl neu'ch siart yng nghorff eich gwaith, gan esbonio ei arwyddocâd.
  • Ystyried hygyrchedd: Defnyddiwch liwiau a phatrymau'n ddoeth, gan sicrhau eu bod yn hygyrch i bobl ag amhariad ar y golwg. Gall ffontiau seriff fod yn arbennig o anodd i rai pobl â dyslecsia, felly cofiwch osgoi'r rhain a byddwch yn ymwybodol o fylchau rhwng geiriau.
Llyfrgell Campws y Bae.

Ceisio Cyngor gan Arbenigwyr

Yn ansicr sut i fynd ati? Mae llyfrgellwyr y brifysgol yn adnodd anhygoel. Gall eich arbenigwr pwnc Canllaw i'r Llyfrgell:

  • Eich helpu drwy awgrymu strategaethau i ddod o hyd i ddelweddau a setiau data hygred o safon.
  • Rhoi arweiniad i chi am reolau hawlfraint a dyfynnu.
  • Cynnig cyngor ar offer i greu delweddau megis ffeithluniau a siartiau.

I gysylltu â'ch llyfrgellwyr, ewch i wefan gwasanaethau llyfrgell eich prifysgol. Mae llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe'n cynnig sgwrs fyw, gwasanaethau e-bost ac apwyntiadau un i un ar y campws. Mae croeso i chi gysylltu â nhw - maen nhw yno i'ch cefnogi chi ac maen nhw'n rhan hanfodol o'ch profiad yn y brifysgol.

Drwy gynnwys delweddau ystyrlon yn eich gwaith, gallwch gyfleu eich syniadau'n fwy effeithiol a gadael argraff a fydd yn para ar eich darllenwyr neu'ch cynulleidfa. Rhowch gynnig arni a gweld y gwahaniaeth!

Ffynonellau.

Braun, V., & Clarke, V. (2006). Using thematic analysis in psychology. Qualitative Research in Psychology3(2), 77–101. https://doi.org/10.1191/1478088706qp063oa