Wyt ti’n cyflwyno Cais i Astudio Gradd Israddedig ym Mhrifysgol Abertawe?
Rydym yma i helpu.
Mae cyflwyno cais i brifysgol yn brofiad cyffrous, ond bydd gen ti gwestiynau ar hyd y ffordd.
Efallai dy fod yn:
- Paratoi i gyflwyno cais am dy gwrs israddedig,
- Eisoes wedi cyflwyno cais ac yn aros am dy gynnig, neu
- Eisoes wedi derbyn dy gynnig
Rydym yma i dy helpu ar bob cam.
Rydym wedi llunio canllawiau defnyddiol isod, a fydd yn dy helpu ar bob cam o'r broses cyflwyno cais. Ond, os oes gen ti gwestiwn y mae angen ateb arnat, cofia e-bostio ein Tîm Derbyn Myfyrwyr unrhyw bryd.