Amdanom Ni
Gyda dros 50 mlynedd o brofiad o roi arweiniad addysg uwch i ysgolion a cholegau'r DU, mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn un o'r rhai mwyaf rhagweithiol yn y DU o ran helpu i baratoi darpar fyfyrwyr ar gyfer heriau, realiti a manteision bywyd prifysgol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgymorth i ysbrydoli eich myfyrwyr. Gellir trefnu llawer ohonynt i gyd-fynd ag amserlenni ysgol neu goleg (gan gynnwys sesiynau gyda'r hwyr) ac fe'u darperir yn rhad ac am ddim.
Dewch i gwrdd â ni
Mae ein tîm yn teithio hyd a lled y Deyrnas Unedig i gynrychioli'r Brifysgol mewn arddangosfeydd addysg uwch gan gynnwys UCAS, UK Uni Search a WhatUni. Mae'r arddangosfeydd hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr siarad â chynrychiolydd am eu dewisiadau addysg uwch.
Gallwch hefyd gwrdd â'r tîm yn ein Diwrnodau Agored, a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Ar Ddiwrnod Agored, gallwch chi a'ch myfyrwyr archwilio ein campysau hardd, cwrdd â'n staff addysgu sydd o'r radd flaenaf, archwilio ein cyfleusterau addysgu, opsiynau llety, cyfleusterau chwaraeon ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am fywyd myfyrwyr gan ein llysgenhadon myfyrwyr cyfeillgar.