Arweiniodd Dr Lella Nouri, yr academydd arobryn o Brifysgol Abertawe, grŵp ieuenctid yng Ngorseinon i drawsnewid eu canolfan gymunedol gan ddefnyddio graffiti i amlygu pwysigrwydd eu clwb ieuenctid i'r gymuned, i godi llais yn erbyn ymddygiadau diweddar gan bobl ifanc yn eu cymuned ac i ddangos beth mae eu clwb yn ei gynrychioli.

Roedd y digwyddiad celfyddydol yn rhan o fenter 'Flip the Streets'  Dr Nouri, gyda'r nod o ddefnyddio graffiti i adeiladu gwytnwch y gymuned yn erbyn casineb a defnyddio gwaith celf creadigol a grymusol i ledu negeseuon cadarnhaol.

Mae menter Flip the Streets wedi bod yn mynd ers mis Mai 2023. Ar y dechrau roedd yn cael ei gyllido gan Race Council Cymru ac erbyn hyn Cyngor Abertawe sy'n ei gyllido. Ei nod yw darparu platfform i bobl ifanc yn ardal ehangach Abertawe i gymryd y llyw a chael gwared ar ymddygiad a phethau gweledol atgas o fewn eu cymunedau.

Mynychodd nifer o aelodau'r grŵp ieuenctid ddigwyddiad Flip the Streets, ar ôl rhai wythnosau o weithio gyda'i gilydd yn y clwb ieuenctid, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr o Brifysgol Abertawe, Heddlu De Cymru a'r awdurdod lleol.

Bu'r mynychwyr yn gweithio gyda'i gilydd i greu gwaith celf sy'n cynrychioli'n well y bobl ifanc yn yr ardal. Roedd y grŵp ieuenctid yn awyddus i ddangos i'r gymuned nad oedd y trafferthion lleol yn cynrychioli holl bobl ifanc yr ardal gan greu, ar yr un pryd, amgylchedd croesawgar a chynhwysol ar gyfer eu clwb ieuenctid.

Gyda saith prosiect arall ar y gweill dros y misoedd nesaf, y gobaith yw y bydd prosiect Flip the Streets yn helpu grwpiau cymunedol ar draws Abertawe i gael gwared ar gasineb, boed yn weledol neu'n eiriol.

I hyrwyddo'r amcan hwn mae Dr Nouri'n datblygu ap 'StreetSnap' fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr dynnu llun o graffiti casineb a'i uwchlwytho'n awtomatig i system sy'n cael ei rannu gan awdurdodau lleol a gorfodwyr y gyfraith, fydd yn caniatáu canfod graffiti casineb yn haws er mwyn gallu cael gwared arno ar fyrder. Yn bwysicaf oll, bydd yr ap yn cael ei ddefnyddio i hysbysu ymyriadau cymunedol. Bydd yr ap yn cael ei dreialu yn Abertawe o fis Gorffennaf 2024.

Meddai'r Dr Lella Nouri, Athro Cyswllt Troseddeg a Chyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Bygythiadau Seiber (CYTREC):

"Roedd y bobl ifanc fu'n cymryd rhan yn ein digwyddiad Flip the Streets yng nghanolfan gymunedol Gorseinon yn awyddus i ddangos nad yw'r trafferthion lleol yn eu cynrychioli nhw na'u cymuned.

"Roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl ifanc a gwirfoddolwyr yn gweithio gyda'i gilydd i gryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn defnyddio graffiti fel ffordd o gael llais." 

Y digwyddiad hwn yng Ngorseinon yw'r ail ddiwrnod Flip the Streets i gael ei gynnal yn Abertawe eleni, yn dilyn gwaith grŵp ieuenctid Canolfan Gymunedol Trefansel i gael gwared ar graffiti casineb (swasticas) ym mis Mai 2023, gan ei ddisodli gyda gwaith celf creadigol, llawn mynegiant oedd yn herio ac yn codi llais yn erbyn hiliaeth yng Nghymru.

Meddai'r Athro Ryan Murphy, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae Flip the Streets yn amlygu ein hymdrechion ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau bod gan ein hymchwil effaith gwirioneddol ar gymdeithas. Mae Dr Nouri'n haeddu'r holl glod am ei hymdrechion diflino i gefnogi pobl ifanc ac i'w hannog i ddangos balchder yn eu gofodau lleol."

I gael gwybod mwy am Flip the Streets ac am waith Dr Nouri, ewch i swansea.ac.uk/staff/l.m.nouri/

Rhannu'r stori