I nodi’r digwyddiad, gwahoddwyd dosbarth o ddisgyblion Blwyddyn 2 o Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph, Abertawe i agor y Rhandy yn swyddogol. Mwynhaodd y plant feirniadu cynigion cystadlaethau gan athrawon dan hyfforddiant TAR cynradd ac uwchradd.

Cafodd y plant wers am ffyrdd gwyrdd o deithio o amgylch Cymru gan rai o athrawon dan hyfforddiant TAR cynradd: Rebekkah Khalid, Lauren Morris, Carys Cartwright a Leah Emery.

Llongyfarchodd Dr Helen Lewis, Cyfarwyddwr y Rhaglen TAR Cynradd, yr athrawon dan hyfforddiant gan ddweud:

“Mae’r gwaith paratoi, y brwdfrydedd a’r sgiliau a ddangoswyd gan ein hathrawon dan hyfforddiant yn dyst i’w proffesiynoldeb. Mae hyn yn argoeli’n dda wrth iddynt ddod yn ymarferwyr myfyriol wedi’u llywio gan ymchwil.”

Torrodd Angela Heald, Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph, y rhuban seremonïol i agor y Rhandy yn swyddogol ynghyd â’r disgyblion, a fu’n perfformio dwy gân yn Gymraeg i gynulleidfa fawr o staff a myfyrwyr yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.

Dywedodd Mrs Heald:

“Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych i’n plant gael dealltwriaeth wirioneddol o’r hyn sy’n digwydd o ddydd i ddydd yn y brifysgol. I’n hathrawon dan hyfforddiant, mae’n gyfle iddyn nhw allu paratoi ar y cyd, arddangos rhai o’u sgiliau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Rwy'n hoffi'r ffordd mae'r brifysgol wedi siarad â'r ysgol i edrych ar yr hyn mae'r plant yn ei ddysgu, felly mae'n rhoi cyfle gwych i'n plant archwilio eu dysgu mewn ffordd wahanol.”

Ychwanegodd yr Athro Andy Townsend, Pennaeth yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod:

“Hoffem ddiolch i staff a disgyblion St Joseph’s am eu cyfraniad gwych ar y diwrnod. Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu ysgolion eraill i’r Rhandy yn y dyfodol.”

I ddysgu mwy am y Rhandy a gwaith y Ganolfan,cysylltwch â’r Brifysgol ar: CRIP@abertawe.ac.uk 

Rhannu'r stori