DEWCH I GWRDD Â FFION

Fy enw i yw Ffion Edwards ac rwy'n dod o Gastell-nedd Port Talbot, de Cymru. Cyn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio ar gyfer fy ngradd a'm cwrs ôl-raddedig, es i i Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera lle astudiais fy TGAU a'm cyrsiau Safon Uwch.

Ym Mhrifysgol Abertawe, astudiais ar gyfer gradd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, ac es i ymlaen i astudio'r MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth. Dewisais barhau â'm hastudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd bod fy mhrofiad fel myfyriwr israddedig yn anhygoel. Penderfynais astudio'r MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth oherwydd bod y ddau yn un o'r bygythiadau mwyaf y mae  cymdeithas yn eu hwynebu heddiw. Felly, roeddwn yn chwilfrydig o ran deall yr ymateb i'r ddau, yn ogystal â meithrin llawer iawn o ddealltwriaeth er mwyn dilyn gyrfa sy'n gysylltiedig â'r pynciau rwy’ wedi eu hastudio drwy gydol y Brifysgol.

A photo of Ffion

Y peth mwyaf pleserus am astudio'r cwrs ôl-raddedig hwn oedd y cyfleoedd ar gael drwyddi draw. Yn gyntaf, mae'r cwrs yn cynnig interniaethau anhygoel. Cafodd y myfyrwyr llwyddiannus y profiad i feithrin sgiliau ymarferol a damcaniaethol gan ymchwilio i agweddau sy'n ymwneud â therfysgaeth a seiberdroseddu, a hefyd cawsant y cyfle i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y maes. Mae'r cyfle i wneud interniaeth fel rhan o'r MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth yn fanteisiol oherwydd ei fod yn rhoi'r sgiliau hanfodol i'r myfyriwr llwyddiannus ar gyfer y gyrfaoedd yr hoffai weithio ynddynt yn y dyfodol.

Yn ail, roedd y siaradwyr gwadd a ddaeth i'n darlithoedd yn weithwyr proffesiynol hynod gymwysedig ym maes seiberdroseddu a therfysgaeth. Roeddent yn weithwyr proffesiynol ledled y byd, nid yn unig o'r Deyrnas Unedig. Roedd hyn yn ein galluogi i ofyn cwestiynau amser go-iawn am ddigwyddiadau troseddol a oedd ar y gweill neu a oedd wedi digwydd ledled y byd. Roedd derbyn cyngor, gwybodaeth a gwybodaeth fanwl gan weithwyr proffesiynol hynod gymwysedig yn ysbrydoledig dros ben ac yn gyfle anhygoel a fyddai'n anodd ei wireddu y tu hwnt i astudio'r cwrs MA hwn.

Yn drydydd, roedd modiwlau'r MA yn ddiddorol dros ben ac yn gyfredol. Roedd hyn yn galluogi myfyrwyr a minnau i ysgrifennu aseiniadau ar sail digwyddiadau a oedd wedi digwydd dyddiau neu hyd yn oed fisoedd ynghynt. Roedd hyn yn ddiddorol dros ben oherwydd bod seiberdroseddu a therfysgaeth yn broblem barhaus sy'n dal i ddigwydd heddiw. Felly, roedd deall digwyddiadau amser go-iawn, dysgu amdanynt ac ysgrifennu amdanynt yn gwneud imi gysylltu â'r cwrs.

Hoffwn i sicrhau darpar fyfyrwyr bod y cymorth gan y darlithwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn fendigedig. Gwnaeth y staff gyfathrebu drwy Teams, dros y ffôn neu drwy e-bost, a phe bai problem roedd y staff yn glir y byddent bob amser ar gael i helpu. Yn ystod fy amser yn astudio'r cwrs MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, cyrhaeddodd Pandemig Covid-19. Er nad oedd modd dychmygu hyn, nid oedd yn anghredadwy oherwydd bod y staff yn cyfathrebu â ni'n barhaus a oedd yn awgrymu bod cymorth yn hanfodol. Mae ystadegau yn awgrymu mai Prifysgol Abertawe yw'r 10fed brifysgol orau yn 2020. Gallaf ddychmygu bod y cymorth gan y staff yn ystyriaeth wrth benderfynu ar y dyfarniad hwn.

Felly, byddwn yn argymell i unrhyw ddarpar fyfyrwyr astudio'r cwrs hwn oherwydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu meithrin sy'n ymwneud â phynciau a fydd bob amser yn broblem mewn cymdeithas, heb os. At hynny, byddwch yn cael cyfleoedd i ysgrifennu aseiniadau ar sail eich canfyddiadau o ran digwyddiadau troseddol sydd wedi rhoi sioc i'r byd cyfan, sy'n gallu bod yn hynod werthfawr ar gyfer gyrfa ym maes seiberdroseddu a therfysgaeth. Ar wahân i safbwynt academaidd y cwrs, mae bywyd nos rhinweddol gan y Brifysgol sydd wedi'i ddyfarnu yn y 9fed safle o ran y ddinas orau am fywyd nos myfyrwyr. Hefyd, ychydig funudau i ffwrdd o’r Brifysgol ceir traeth Abertawe, lle gall myfyrwyr fwynhau'r awyr iach ac ymlacio ar yr un pryd.

Y tu allan i Brifysgol Abertawe, rwy'n Gwnstabl Arbennig i Heddlu De Cymru. Fel Cwnstabl Arbennig, rwy'n amddiffyn ac yn sicrhau pobl de Cymru drwy weithio ochr yn ochr â swyddogion arferol. Rwy'n mwynhau bod yn Gwnstabl Arbennig oherwydd bod gen i'r un pwerau, yr un wisg a'r un cyfarpar â swyddogion arferol, sy'n awgrymu y gallaf ymateb i'r un galwadau er mwyn helpu i ymladd yn erbyn troseddu. Rwy' wedi bod yn gwnstabl arbennig drwy gydol rhan fawr o'm hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Fodd bynnag, ers graddio a gadael fy swydd ran-amser yn archfarchnad Filco, rwy'n dal i fod yn Gwnstabl Arbennig. Serch hynny, rwy' wedi dechrau swydd amser llawn yn gweithio ym maes twyll. Mae gen i gariad at y swydd hon ac mae'n ymwneud yn fawr iawn â'm hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe, a byddaf bob amser yn ddiolchgar am hynny ac yn falch ohono.