DEWCH I GWRDD Â CONNOR

Fy enw yw Connor Rees ac ar hyn o bryd rwy'n ymchwilydd PhD mewn Troseddeg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn dilyn cwrs gradd Meistr, astudiais Droseddeg a Chyfiawnder Troseddol fel myfyriwr israddedig yn Abertawe.

Dewisais astudio'r radd MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth am nifer o resymau sy'n ymwneud â diddordebau personol, nodau a rhagolygon gyrfaol. Mae fy resymau yn deillio o ddiddordeb go-iawn yn y maes pwnc, yn enwedig radicaleiddio ac eithafiaeth ar ôl fy nhraethawd hir israddedig.

Mae fy niddordebau gyrfaol hefyd yn rhan o'r meysydd pwnc y mae'r rhaglen hon yn eu cynnwys; yn syml, roedd hynny'n fy ngalluogi i ddilyn fy addysg ymhellach mewn pwnc yr oeddwn yn ei fwynhau'n fawr mewn amgylchedd cefnogol ond heriol. Fy nisgwyliadau a'r realiti wrth ddechrau'r rhaglen oedd ymgysylltu'n fwy ag academyddion ac ymarferwyr yn y maes a deall rhagolygon gyrfaol a llwybrau cyfleoedd yn well.

A head shot of Connor

Agwedd orau'r cwrs Seiberdroseddu a Therfysgaeth yw ei fod yn cynnig mwy na chymhwyster academaidd yn unig yn y pen draw. Mae'r cyfleoedd a'r cymorth sydd wedi'u cynnig wrth ymgysylltu ag interniaethau, y cysylltiadau ag ymarferwyr gweithredol a'r gwaith datblygu sgiliau cyflogadwyedd sy'n rhan o'r cwrs yn cynnig gwerth sy'n llawer fwy na swm y rhannau. Mae myfyrwyr fel minnau wedi elwa nid yn unig ar ansawdd ardderchog yr addysgu a'r cymorth wedi'u cynnig gan y staff, ond hefyd ar lefel y mynediad at rwydwaith helaeth a sylweddol o academyddion ac ymarferwyr yn y maes y mae'r staff yn ei gynnig.

I'r rhai sydd â diddordeb mewn astudio'r rhaglen, byddwn yn awgrymu'n gryf ymgysylltu â'r cwrs a'r staff ar bob cyfle. Er bydd eich presenoldeb yn elfennau gorfodol y rhaglen yn rhoi cymhwyster gwerthfawr cydnabyddedig i chi, fel darpar fyfyriwr eich nod yw cael y gorau wrth ymgysylltu â staff, â'ch cyfoedion, â myfyrwyr PhD fel minnau, ac â'r coleg yn ehangach. Dyma'r ymagwedd y gwnes ei mabwysiadu, a gallaf gadarnhau'n bersonol y cyfleoedd y mae hyn wedi’u darparu i fi ac yn parhau i'w cynnig.

Yn bersonol, roedd gen i berthynas gadarnhaol unigryw â staff y cwrs, fel roedd pobl eraill ar y cwrs hefyd. Roedd y cymorth parhaus, yr ymgysylltu, a'r awydd go iawn am adborth a beirniadaeth adeiladol yn creu amgylchedd gwaith a oedd yn afaelgar, yn addysgiadol ac yn onest mewn modd unigryw. Mae awydd go iawn y staff i wella perfformiad wedi arwain at newid ystyrlon parhaus yn y ffordd y mae'r cwrs yn cael ei gynnal. I'r graddau fy mod i’n gwybod bod y cwrs a gynigir heddiw yn fersiwn newydd a gwell i'r un a brofais i. Mae hyn yn cyfleu diddordeb go iawn y staff yn y maes pwnc, ond hefyd yr awydd i wella profiad y myfyrwyr yn barhaus.

Ers imi raddio o'r rhaglen MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, rwy' wedi bod yn ddigon ffodus i gychwyn ar Ysgoloriaeth PhD mewn Cyfrifiadureg a Throseddeg wedi'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol. Roedd yr ysgoloriaeth hon yn cynnwys blwyddyn Meistr integredig gan ystyried rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron. Er bod gen i wybodaeth gyfyng iawn ynghynt am y maes ymchwil hwn, mae'r sgiliau rwy' wedi eu meithrin yn ystod fy ngradd MA ynghyd â'r cymorth parhaus gan y staff wedi bod yn ffactorau hollbwysig o ran fy ngallu i ragori yn y lleoliad newydd hwn. Er mawr lawenydd i mi, mae fy ngradd PhD yn estyniad i'r pynciau y cefais gyflwyniad iddynt yn ystod fy ngradd MA, gan ei bod yn ystyried eithafiaeth yr adain dde amgen, propaganda ar-lein a dileu cynnwys hybrid wedi'i awtomeiddio gan bobl.

Connor with Lord Carlile and Professor Elwen Evans KC
Connor on stage at TASM