YN CYFLWYNO CHAMIN

Fy enw i yw Chamin Herath, ac rwyf newydd gwblhau fy ngradd MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth. Treuliais fy holl amser mewn addysg uwch ym Mhrifysgol Abertawe. Yn 2016, dechreuais ar fy ngradd israddedig mewn Troseddeg a Seicoleg.

Ar ôl cwblhau fy ngradd, dewisais i astudio gradd MA yn mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth. Yr hyn a wnaeth fy nenu i'r cwrs hwn oedd ei ffocws ar ddau faes eang sy'n dod yn fwyfwy pwysig - niwed ar-lein ac eithafiaeth dreisgar. Ar ôl cyffwrdd â'r pynciau hyn yn fy ngradd israddedig, roeddwn yn teimlo bod llawer mwy i'w ddysgu gan fod y maes yn parhau i ddatblygu, a byddai lle ar gyfer safbwyntiau newydd.

Y peth gorau am y rhaglen oedd ei ffocws amlddisgyblaethol. Roeddwn yn teimlo bod llawer o le i archwilio pynciau a thrafodaethau o amrywiaeth o feysydd gwahanol megis y gyfraith, hanes, seicoleg, troseddeg ac athroniaeth.

A head shot of Chamin

Yn ogystal, roeddwn yn gwerthfawrogi cysylltiadau'r darlithwyr â'r rhai sy'n gweithio mewn meysydd megis polisi seiber, gwrthderfysgaeth a threchu eithafiaeth dreisgar.  Drwy eu cysylltiadau, roeddem yn cael darlithoedd gwadd hynod ddiddorol gan unigolion o sefydliadau megis RUSI, Hedayah a Facebook.

Yn ogystal, mae Ysgol y Gyfraith Abertawe'n gartref i’r Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC), ac o ganlyniad mae cyfle i weithio fel intern ar brosiect ymchwil, tua diwedd y flwyddyn academaidd. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael un o'r interniaethau hyn ac er ei fod yn rhithiol, roedd yn wych cael profiad uniongyrchol o weithio gyda data a chynnal gwaith ymchwil newydd.

Bydd llawer o gyfleoedd i ymgysylltu yn y darlithoedd a'r tu allan iddynt, felly fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr fyddai manteisiwch ar gynifer o'r rhain â phosib.  Bydd cyfleoedd gwych i gwrdd â phobl sy'n gweithio mewn meysydd diddorol, pwysig a pherthnasol a dysgu ganddynt.

Roedden i’n bryderus wrth feddwl am gwblhau’r cwrs yn rhithwir ond er gwaethaf hynny, roedd y staff yn gefnogol a bob amser ar gael i roi cyngor ac adborth.

Ers graddio, rwyf wedi bod yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil ar sawl prosiect sy'n archwilio'r Dde Eithafol ar-lein. Yn ddiweddarach y mis hwn, byddaf yn dechrau rôl fel Dadansoddwr Ymchwil Seiber yn RUSI.

The Gower coastline
Chamin at Llangennith Beach