Ben Harris, Jess Woodcock & Josh Barlow

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i leihau allyriadau carbon yn ei holl weithrediadau. Un ffordd o wneud hyn yw dilyn y Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordai (LEAF) a ddatblygwyd gan UCL, sy'n annog arferion cynaliadwy mewn labordai.

Dros y 12 mis diwethaf, mae 16 o labordai'r Brifysgol wedi ennill dyfarniadau Efydd neu Arian LEAF, ond mae sawl labordy wedi gosod cynsail newydd drwy sicrhau statws Aur LEAF. Y rhain yw:

  • Labordai addysgu 115 a 118 yn Adran y Biowyddorau (Adeilad Wallace) yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
  • Labordy Cemeg G336 yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
  • Y labordy ymchwil ar ail lawr ILS2 yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Mae meini prawf statws Aur LEAF yn herio labordai i newid y ffordd y maent yn prynu ac yn defnyddio cyfarpar, gan ddod o hyd i ddewisiadau cemegol amgen sy’n wyrddach, a hyd yn oed ailgynllunio dulliau arbrofion i leihau nifer y cemegion a nwyddau traul a ddefnyddir. 

Mae'r camau allweddol yn cynnwys:

  • Disodli dysglau petri plastig â gwydr y gellir ei ailddefnyddio a labelu ffiolau samplau cemegol i'w hailddefnyddio'n briodol.
  • Rhannu cyfarpar rhwng cynlluniau gradd gwahanol a chaniatáu i gyfarpar hŷn a ddefnyddir yn llai gael ei ddefnyddio mewn ‘labordai prosiectau’ ar gyfer israddedigion.
  • Disodli cemegion peryglus penodol â dewisiadau amgen sy'n wyrddach ac yn fwy diogel.
  • Archebu llwythi o gemegion a nwyddau traul ar ddechrau semestrau i osgoi eu derbyn drwy gydol y tymor er mwyn lleihau teithiau ac allyriadau.

Mae Ben Harris, Uwch-dechnegydd o'r Adran Gemeg, yn rheoli labordy addysgu G336. Meddai: “Mae ennill dyfarniad Aur LEAF wedi bod yn ymarfer defnyddiol iawn wrth iddo gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr ein labordai o'r arferion sy'n gwneud ein gweithredoedd pob dydd yn fwy cynaliadwy, yn ogystal â chychwyn trafodaethau diddorol ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud nesaf a sut gallwn ni gydweithio'n fwy effeithlon.”

Mae Hilary Williams, Uwch-dechnegydd yn Adran y Biowyddorau, yn gyfrifol am labordai addysgu 115 a 118. Meddai: “Mae ennill dyfarniad Aur LEAF wedi cychwyn rhai sgyrsiau diddorol rhwng grwpiau labordai. Rydyn ni'n hynod falch mai ni yw'r labordai addysgu cyntaf yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg sydd wedi cyflawni hyn.”

Meddai Ruth Jones, Swyddog Ymchwil o'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: “Mae'n bleser gen i sicrhau bod labordy ymchwil cyntaf y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd wedi ennill statws Aur. Rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn fel grŵp cydweithredol i gyrraedd y sefyllfa hon ac rydyn ni wedi cael cymaint o gefnogaeth gan holl ddefnyddwyr y labordy. Er ein bod ni'n dal i fod yn bell iawn o weithredu holl argymhellion LEAF a gwneud ein labordai'n wirioneddol gynaliadwy, rydyn ni wedi llwyddo i roi rhai cynlluniau newydd gwych ac arbedion effeithlonrwydd llawer gwell ar waith.”

Gan siarad ar ran Tîm Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe, meddai Victoria Lewis, Swyddog yr Amgylchedd: “Mae angen llawer o amser, ymdrech, cydlynu a gwaith tîm i ennill statws Aur LEAF. Mae'r hyn y mae Ben, Hilary a Ruth a'u timau wedi'i gyflawni'n dangos eu hymdrechion dyddiol i wella eu perfformiad amgylcheddol eu hunain ac addysgu eu myfyrwyr sut gallan nhw fod yn rhan o labordy cynaliadwy. Fel Tîm Cynaliadwyedd y Brifysgol, rydyn ni'n falch iawn o bawb dan sylw.”

Os ydych yn gweithio mewn labordy ac yn cael eich ysbrydoli i ymuno â LEAF, gallwch gofrestru yma a gweithio tuag at eich dyfarniad cyntaf. Mae'r Tîm Cynaliadwyedd yn cynnig cymorth ar bob cam o'r daith tuag at ennill statws LEAF, a gellir anfon cwestiynau i: sustainability@abertawe.ac.uk

Rhannu'r stori