Mae Prifysgol Abertawe'n darparu rhwydwaith Wi-Fi ar draws ei champysau, i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr a staff, yn ogystal â rhwydwaith ymwelwyr ar gyfer gwesteion a chynadleddau. Mae ein gwasanaeth Wi-Fi yn rhoi mynediad i eduroam, sy'n wasanaeth Wi-Fi trawsrwydweithio byd-eang ar gyfer ffonau symudol, gliniaduron a thabledi.
Mae ein rhwydwaith Wi-Fi yn cynnwys:
- Diogelwch ac amgryptio lefel menter
- Rhwydwaith Wi-Fi ar gyfer consolau gemau
- Cysylltedd ar draws holl safleoedd Prifysgol Abertawe a mynediad i rwydwaith eduroam mewn miloedd o brifysgolion eraill ledled y byd
- Rhwydwaith Wi-Fi am ddim sy'n darparu cysylltedd yn adeiladau'r Brifysgol ar gyfer ymwelwyr a gwesteion