Roedd y Ffowndri Gyfrifiadol a CHERISH yn falch o gael croesawu tîm o Facebook
Mae gan CHERISH-DE a Facebook berthynas agos, sydd yn cael ei harwain gan Tashi Gyaltsen, drwy fentrau prosiect megis Crwsibl Economi Ddigidol, CDT ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a Data Mawr, ac interniaeth PhD; a phrosiectau Escalator sydd yn mynd i'r afael a therfysgaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan yr Athro Stuart MacDonald.
Roedd y digwyddiad yn dathlu ein cydweithrediad, ac yn canolbwyntio ar raglen o waith y mae CHERISH-DE a'r Athro Stuart MacDonald wedi dechrau ers 2016, gyda chefnogaeth gan ddwy grant escalator CHERISH-DE. Roedd y sgwrs a'r drafodaeth yn seiliedig ar 'Ehangu Ymchwil Cydweithredol a Dealltwriaeth o Wrthderfysgaeth Ar-lein'.