PRIFYSGOL ABERTAWE YN ARWYDDO CYTUNDEB STRATEGOL GYDA SEFYDLIAD YMCHWIL FFRENGIG

Prifysgol Abertawe yn arwyddo Cytundeb Strategol gyda Sefydliad Ymchwil Ffrengig mewn addewid 'Tech er Da'

Mae'r bartneriaeth rhwng Canolfan Ymchwil Economi Ddigidol CHERISH, Prifysgol Abertawe ac Inria, Ffrainc, yn gynghrair Ewropeaidd sylweddol, yn hybu rhagoriaeth wyddonol ac arloesol mewn technolegau dynol a Deallusrwydd Artiffisial.

Bydd y Bartneriaeth Draws Sianel allweddol yn cynnig cyfleoedd i gyfnewid ymchwil, rhannu sgiliau a gwybodaeth, a chael mynediad at gyfleusterau ymchwilio ei gilydd er mwyn cyflymu datblygiad ymchwil technoleg a fydd yn gweld newid economaidd a chymdeithasol.

Mae'r Bartneriaeth, sy'n cael ei chefnogi gan Rwydwaith Gwyddoniaeth ac Arloesedd y DU a'r Adran Masnach Ryngwladol, yn gweithio er mwyn trosglwyddo arloesiadau technegol yn gyflym i ddiwydiannau o ystod o sectorau, gan gynnwys amaethyddiaeth - blaenoriaeth ymchwil cenedlaethol allweddol ar naill ochr y Sianel.

Dywedodd Isabelle Hurley, Pennaeth Adran Masnach Ryngwladol Llysgenhadaeth Prydain yn Lyon: "I ddathlu ein cynghrair, byddwn yn cynnal digwyddiad "Tech er Da" ar y cyd yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis. Y brif thema fydd "Defnyddio technoleg er da", er mwyn dathlu optimeiddio R&D a phartneriaethau busnes wedi eu seilio ar ffynnu ar y cyd, yn cynnwys prif siaradwyr a fydd ar flaen byd gwell, ac yn dathlu sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i wneud newid cymdeithasol."

Mae cydweithrediad sydd wedi deillio o'r Bartneriaeth yn barod wedi arddangos ei photensial pwerus drwy gyflwyno prototeip cyffrous ar gyfer ffermwyr tyddyn: Teclyn Cobot Amaethyddiaeth ar gyfer rheoli a threfnu tasgau maes. Mae'r system newydd yn defnyddio sain fel ffordd o gyfathrebu er mwyn gwella ffydd pobl mewn systemau peiriannau fferm, ac i gyfoethogi'r rhyngweithio rhwng dyn a pheiriannau mewn gwaith fferm ar y cyd.

Dywedodd Jay Doyle, Swyddog Ymgysylltu Busnes ac Ymchwil Yng Nghanolfan Ymchwil Economi Ddigidol CHERIS: "Yn ein Canolfan Ymchwil, rydym yn cydnabod ein cytundeb llafar gyda chymdeithas i feithrin technolegau digidol a fydd yn gwella llesiant a diogelwch dynol. Mae ein Partneriaeth gydag Inria wedi ei hadeiladu ar y gwerthoedd rydym yn eu rhannu a'r ymrwymiad sydd gennym i'r egwyddorion hyn, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda'n cyfatebwyr Ffrengig tuag at ein nod cyffredin o "Tech er Da."

PRIFYSGOL ABERTAWE YN ARWYDDO CYTUNDEB STRATEGOL GYDA SEFYDLIAD YMCHWIL FFRENGIG

Jay Doyle Lyon

Prifysgol Abertawe yn arwyddo Cytundeb Strategol gyda Sefydliad Ymchwil Ffrengig mewn addewid 'Tech er Da'