Grwsibl Economi Ddigidol y DU

Crucible 2019

CHERISH-DE yn dod â diwydiant ac ymchwilwyr ynghyd i drafod arloesiadau

Bu i Grwsibl Economi Ddigidol y DU, rhaglen ddatblygu arweinyddiaeth ymchwilwyr cenedlaethol, ddod â nifer o unigolion o ddiwydiant ynghyd i gynnal sgwrs a chymryd rhan mewn heriau diwydiannol gyda chyfranogwyr Crwsibl. Mae cyfranogwyr Crwsibl yn cyfuno ymchwilwyr sydd newydd gychwyn gyrfa o wahanol ddisgyblaethau a phrifysgolion ledled y DU. 

Yn y llun uchod, o'r chwith i'r dde, mae Pete Waggett (IBM), James Yates (AstraZeneca), Juan Manuel Gomez (Amazon), Michel Kiffel (PwC) and Tashi Gyaltsen (CHERISH-DE, Prifysgol Abertawe)

Mae'r rhaglen yn meithrin arweinwyr y dyfodol ac yn cryfhau cymuned ymchwil yr economi ddigidol a fydd yn cyfrannu at lunio cynnyrch, gwasanaethau a pholisïau’r dyfodol. Cynhaliwyd gweithdai ysgrifennu grantiau ar gyfer y cyfranogwyr yn ystod y digwyddiad, a buont yn gweithio ar ddatblygu cynllun strategol personol. Bydd y garfan yn ailymgynnull yn Llundain i edrych ar weithredu effaith drwy ffurfio polisi, defnyddio ymchwil at ddibenion masnachol a lles yr ymchwilydd.

Bydd CHERISH-DE yn cynnal un Crwsibl olaf yn 2020 a bydd y manylion ar gael yn hwyrach eleni.