Mae technoleg gadwyn gyswllt wedi achosi un o’r newidiadau technolegol mwyaf cyffrous a dwfn yn ein hamser. Mae’n ailddiffinio’r ffordd rydym yn cynnal masnach, sut rydym yn rhyngweithio â’r llywodraeth a sut rydym yn gwirio dilysrwydd a tharddiad popeth o asedau ariannol i fwyd a deunyddiau gwerthfawr.

Mae Swansea Blockchain Lab yn grŵp ymchwil dynodedig yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe, wedi’i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil i’r Economi Ddigidol CHERISH.

Mae’r Lab yn grŵp dynodedig o ymchwilwyr a gweithwyr busnes proffesiynol yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe, gydag arbenigedd cyfuniadol ar draws cyfrifiadureg a mathemateg.

Mae gennym amrywiaeth o raglenni cyllido sy’n galluogi ymgysylltu rhwng ein hymchwilwyr a’n partneriaid ac sy’n cefnogi datblygu cadwyn gyswllt prototeip a thechnolegau cyfriflyfrau dosbarthedig. Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Cwrdd â’r tîm

Arnold Beckmann

Mae Arnold yn Athro Cyfrifiadureg, ac yn Bennaeth Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n Gyd-brif Ymchwilydd ar gyfer prosiect blaengar Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe, sy’n werth £31 miliwn, sydd â’r nod o gynnal ymchwil amlddisgyblaethol i feysydd ymchwil craidd Cyfrifiadureg yn Abertawe, gan gynnwys Rhyngweithiad rhwng Pobl a Chyfrifiaduron, Gwyddoniaeth Ddata a Sylfaeni Cyfrifiadura, i greu tywysydd ar gyfer Cyfrifiadura yng Nghymru a’r tu hwnt. Mae Arnold yn cynnal ymchwil i sylfaeni Cyfrifiadureg, ar sail Rhesymeg Fathemategol a Chyfrifiadureg Ddamcaniaethol, ac mae wedi datblygu proffil ar gyfer trosglwyddo ei arbenigedd i gymwysiadau drwy gyd-destun y Ffowndri Gyfrifiadol a chyfleoedd amlddisgyblaethol eraill ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Arnold yn aelod sefydlu Labordy Cadwyn Gyswllt Abertawe ac mae’n ymwneud â sawl prosiect sy’n archwilio’r gwaith o gymhwyso technoleg gadwyn gyswllt i broblemau’r byd go iawn

Cyswllt: a.beckmann@abertawe.ac.uk

Jay Doyle

Mae Jay yn Swyddog Ymgysylltu ag Ymchwil yng Nghanolfan Economi Ddigidol Prifysgol Abertawe ac yn gyd-aelod sefydlu’r labordy. Gyda chefndir mewn adennill ac archwilio i asedau yn y proffesiwn ansolfedd, mae Jay yn awyddus i archwilio rôl technoleg gadwyn gyswllt a chyfriflyfrau digidol mewn adennill asedau digidol, a phosibilrwydd atebion wedi’u datganoli ar gyfer heriau arloesedd cymdeithasol. Jay yw ein prif bwynt cyswllt ar gyfer cyfleoedd i ymchwilio a datblygu busnes yn y labordy.

Cyswllt: j.c.doyle@abertawe.ac.uk | +44 1792 513036

Anton Setzer

Mae Anton yn ddarllenydd yn Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe. Mae’n arbenigwr ym maes theori brawf, theori fath a theori prawf rhyngweithiol. Mae wedi bod yn goruchwylio sawl prosiect myfyriwr ym maes Bitcoin ers mis Medi 2013, gan ganolbwyntio’n bennaf ar fodelu a gwirio arian Bitcoin gan ddefnyddio’r profem theoremau Agda. Cyflwynwyd fersiwn well o’r gwaith hwn yn TYPES 2017 yn Budapest.

Cyswllt: a.g.setzer@abertawe.ac.uk

Jean Jose Razafindrakoto

Mae Jean yn Diwtor Academaidd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil yn ymwneud â’r croestoriad rhwng Rhesymeg Fathemategol a Theori Cymhlethdod Cyfrifiadol. Mae diddordebau ymchwil Jean mewn technolegau cadwyn gyswllt ym meysydd diogelwch contractau clyfar a chymhwyso dulliau ffurfiol o ran contractau clyfar.

Cyswllt: j.j.razafindrakoto@abertawe.ac.uk

Phillip James

Mae Phil yn Ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, gan arbenigo mewn dulliau ffurfiol a pheirianneg a ysgogir gan fodelau. Yn benodol, mae gan Phil arbenigedd mewn modelu a phrofi cywirdeb systemau’n ffurfiol o ran diogelwch a diogeledd. Ar hyn o bryd, mae Phil yn ymchwilio i ddefnydd Cadwyn Gyswllt fel ffordd o bennu tarddiad mewn achosion cyfreithlon.

Cyswllt: p.d.james@abertawe.ac.uk

Matheus Torquato

Mae Matheus yn gynorthwy-ydd prosiect yn ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynliadwy Uwch), sef gweithrediad a arweinir gan Brifysgol Abertawe i gefnogi Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd diwydiannol. Mae wedi cynnal ymchwil ym meysydd deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, rhyngweithiad rhwng pobl a chyfrifiaduron, golwg cyfrifiaduron a dyfeisiau wedi’u gwreiddio. Mae Matheus, sy’n dod o gefndir peirianneg gyfrifiadureg, yn gweithio ar hyn o bryd i gymhwyso syniadau yn y croestoriad rhwng cyfrifiadureg a pheirianneg drydanol/ddiwydiannol i ddiwydiannau, megis cymhwyso rhwydweithiau niwral ailadroddol er mwyn nodi’r oes ddefnyddiol sy’n weddill i gydrannau mecanyddol at ddibenion cynnal a chadw rhagfynegol. Yn ogystal, mae’n frwdfrydig am archwilio’r ffyrdd gwahanol y gellir cymhwyso technoleg gadwyn gyswllt yn y byd busnes a sut y bydd y dechnoleg hon yn llywio ail gyfnod y rhyngrwyd.

Cyswllt: m.f.torquato@abertawe.ac.uk

Dion Curry

Mae Dion yn Uwch-ddarlithydd mewn Polisi Cyhoeddus yn yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar lywodraethu gwleidyddol, gan archwilio i sut mae canfyddiadau dinasyddion a’r llywodraeth o ymddiriedaeth a chyfreithlondeb gwleidyddol yn llywio offer ac ymagweddau gwahanol at lywodraethu, ac yn cael eu llywio ganddynt. Mae hefyd yn gyd-aelod sefydlu’r Fenter ar gyfer Rheoli Cydweithrediad rhwng Llunwyr Polisïau a’r Byd Academaidd a Throsglwyddo Gwybodaeth (IMPACKT), sydd â’r nod o gysylltu ymchwil academaidd â pholisi cyhoeddus, busnes a’r trydydd sector yn fwy agos, ac mae wedi cyfrannu at ymgynghoriadau a gwerthusiadau niferus llywodraethau Cymru, y DU a’r UE ar bynciau megis addysg uwch, ynni carbon isel a Brexit.

Mae ganddo ddiddordeb mewn archwilio i sut gall technolegau a phrosesau arloesol gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar lywodraethu gwleidyddol ac mae’n awyddus i archwilio i sut gellir defnyddio cadwyn gyswllt i wella ymgysylltu a thryloywder democrataidd mewn llywodraethu.