Logo

Prosiect allgymorth addysgol yw Helwyr Llwch Sêr (“Stardust Hunters”) a ariennir gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) sydd â’r nod o alluogi plant ysgol i chwilio am ronynnau bychain o'r gofod, yma ar y Ddaear. Prosiect ar y cyd yw hwn, rhwng Prifysgol Abertawe, Oriel Science, AstroCymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru – Caerdydd, a Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.

Mae pecyn cymorth Helwyr Llwch Sêr yn cynnwys popeth y bydd ei angen arnynt i chwilio am y gronynnau hyn a elwir yn ‘ficrometeoritau', a’u darganfod, wrth i ddisgyblion gydweithio â'u hathrawon a/neu eu teuluoedd i gynllunio a chynnal arolygon o'u lleoliadau i ddod o hyd i’r posibiliadau. Yna byddant yn anfon eu canfyddiadau at wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe lle byddant yn cael eu dadansoddi i weld a ydynt wedi dod o hyd i greigiau bach o'r gofod! 

I ymuno â ni ar yr helfa gosmig hon a helpu gwyddonwyr i ddatod dirgelwch y System Solar gynnar, gweler: https://stardusthunters.org.uk/

Cyswllt: Dr Sarah Roberts