Dewch i’n gweld ni a chael blas ar Anian Abertawe!

O'r eiliad rydych chi’n cyrraedd, byddwch yn teimlo'n gartrefol yn Abertawe - ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi. Mae Abertawe'n fwy na phrifysgol, mae'n ffordd o fyw. Mae'n gymuned sy'n cael effaith hirdymor; mae'n rhywle gallwch chi greu atgofion a chael profiadau newydd. Mae ein diwrnodau agored yn ffordd wych o gael blas go iawn ar fywyd yma. Ond byddwch yn ofalus, unwaith rydych chi’n cyrraedd - fel mae llawer o'n myfyrwyr israddedig eisoes wedi darganfod - efallai na fyddwch chi byth eisiau gadael.

Students in a science and engineering lecture, with lecturer presenting on a white board.
Ariel shot of Mumbles.

Y tu allan i gampysau'r brifysgol, cewch gyfle i ddarganfod byd o fwyd, diwylliant a phobl. O'r Mwmbwls i'r Ardal Forol, i ddau o barlyrau hufen iâ enwog Cymru, byddwch chi’n profi traethau gogoneddus a dinas llawn golygfeydd swynol a bwrlwm bywyd cymdeithasol.

Yn union fel ein myfyriwr Maya Dotson, gallwch chi hefyd fwynhau blas ar fywyd Abertawe.

"Wrth feddwl am Abertawe, dwi'n meddwl am y traeth. Dwi'n meddwl am gerdded draw o Gampws Singleton, gosod barbeciw bach ac ymlacio gyda fy ffrindiau yn y tywod. Mae'r tonnau yn Abertawe'n gallu bod yn wyllt ac mae'n llawer o hwyl eu gwylio'n dod i mewn ac yn mynd allan."

Group of students chatting outside Fulton House.

Does dim ots sut rydych chi’n cyrraedd, byddwch chi’n ymgartrefu'n gyflym. Cymuned ydyn ni yn Abertawe, ac rydyn ni'n croesawu ein holl fyfyrwyr. Mae gennym bedwar lleoliad llety gwahanol, a mannau wedi'u neilltuo i grwpiau penodol - o ardaloedd tawel, un rhyw, dialcohol, myfyrwyr aeddfed a phreswylfeydd i siaradwyr Cymraeg, rydyn ni'n hyderus y bydd gennym rywbeth i chi! 

Manteisiwch i'r eithaf ar 'Anian Abertawe' yn ystod eich ymweliad ar ein Diwrnod

Mae dod i'n Diwrnod Agored yn ffordd wych o ddarganfod ‘Anian Abertawe’ - lle cewch flas ar ein hawyrgylch cymunedol a chipolwg ar lawer o'r cyfleusterau niferus sydd gennym i'w cynnig. Byddwch chi’n treulio'r dydd yn archwilio ein campysau ac yn darganfod sut brofiad yw bywyd yn Abertawe. Mae ein diwrnodau agored yn ffordd anffurfiol a difyr o gael cipolwg ar fywyd yn y brifysgol. Dyma beth gallwch chi ei wneud i fanteisio i'r eithaf arnynt:

  • Ymuno â Thaith o'r Campws.
  • Mynd i weld ein Llety.
  • Cymryd rhan mewn Sesiwn am Bwnc.
  • Gofyn cwestiynau. Meddyliwch am unrhyw gwestiynau allai fod gennych cyn ymweld â ni - a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gofyn! Gall eich cwestiwn fod am unrhyw beth, o 'sut brofiad yw bywyd myfyriwr ar y campws?' i 'ble mae'r orsaf drenau agosaf?' Does dim fath beth â chwestiwn anghywir! Mae ein staff a'n myfyrwyr llysgennad bob amser yn hapus i helpu.
  • Archwilio Canol y Ddinas. Os bydd amser gennych, rydym yn argymell mynd i ganol ein dinas - efallai am damaid i'w fwyta, gwneud ychydig o siopa neu archwilio'r atyniadau. Mae'n syniad da sicrhau eich bod yn hoffi ein dinas; rydych chi’n debygol o dreulio cryn dipyn o amser yma!