Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi ar eich Diwrnod Agored!

Rydym yn gyffrous iawn i'ch croesawu i Brifysgol Abertawe a'ch helpu i ddarganfod sut beth yw byw ac astudio yma. Dyma'ch cyfle i archwilio ein campws, cwrdd â myfyrwyr presennol, a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus am eich dyfodol.

Er mwyn eich helpu i wneud y gorau o'ch ymweliad, rydym wedi llunio popeth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi gyrraedd. Cymerwch olwg ar y wybodaeth isod a dechreuwch gynllunio'ch diwrnod.

Cyrraedd yma

Y campws o'r awyr.

Pa gampws sy'n gartref i'ch sgwrs bwnc?

Mae'n bwysig cofio bod gan Brifysgol Abertawe ddau gampws: Campws Parc Singleton a Champws y Bae.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio ym mhle y bydd eich sgwrs am eich pwnc yn cael ei chynnal fel rydych yn gwybod ble i fynd. 

Ewch i'r campws cywir
Trên yn cyrraedd.

Trafnidiaeth - cyrraedd yma mewn car, coets neu drên.

Gall Diwrnodau Agored olygu meysydd parcio prysurach ac ychydig o draffig.

I’ch helpu i gynllunio’ch taith, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am barcio a theithio ar ein tudalen Trafnidiaeth ar Ddiwrnod Agored.

Trafnidiaeth

Mynd o gwmpas y campws

Amserlen y diwrnod

Beth sy'n digwydd ar ôl cyrraedd?

Cofrestrwch wrth gyrraedd cyn symud at eich gweithgaredd a ddewiswyd. Bydd ein staff cyfeillgar a'n Llysgenhadon Myfyrwyr yno i'ch croesawu a'ch tywys i'ch gweithgaredd nesaf drwy gydol y dydd, gan gynnwys:

  • Croeso i Brifysgol Abertawe
  • Sesiynau sgwrsio pwnc
  • Sgyrsian Blwyddyn mewn Diwydiant a Gyrfaoedd
  • Sgyrsiau a theithiau llety
  • Teithiau Campws / Teithiau Chwaraeon
  • Hyb Gwybodaeth
  • Sesiwn galw heibio am gyfleoedd Cymraeg

 

Menyw croesawgar ar Diwrnod Agored

Barod i ddewis eich sesiynau?

Pori trwy'r rhaglen gyflawn ar gyfer y diwrnod

Opsiynau arlwyo

Y penwythnos

Bydd y mannau arlwyo canlynol ar agor:

Campws Singleton
Lle bwyta Amserau agor
Harbwr 8yb - 4yh
Greggs 8yb - 4yh
Taliesin 8yb - 3yh
Tortilla 11yb - 3yh
Campws y Bae
Lle bwyta Amserau agor
Hideaway  9yb - 4yh
Subway 10yb - 4yh
Great Hall 8:30yb - 2yh
Hot Wheels 10yb - 2yh

 

Archwilio Gostyngiadau lleol

Tra rydych chi'n darganfod popeth y mae ein rhanbarth yn ei gynnig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â rhai o'r bwytai a'r tafarnau lleol rhyfeddol yr ydym wedi partneru gyda nhw. Boed eich bod chi'n chwilio am fwyta cyflym, cinio ymlaciol, neu le i ymlacio ar ôl diwrnod o archwilio, byddwch yn mwynhau gostyngiadau unigryw sydd ar gael i'n hymwelwyr:

Archwilio Abertawe

Popeth sydd gan Abertawe i'w gynnig

O'r sîn gerddoriaeth, i'n clybiau chwaraeon a'n cymdeithasau i'n hoff fannau awyr agored. Edrychwch ar ein tudalen ar pob peth i'w ddarganfod yn Abertawe.

Y ddinas ger y môr
Myfyrwyr yn sefyll am llun ar y traeth.