Am y 100 mlynedd diwethaf, mae ein hymchwil wedi bod gwneud gwahaniaeth. Rydym yn cynnal ymchwil ar draws llawer o wahanol feysydd, gan annog cydweithio, arloesedd ac effaith yn y byd go iawn. O ymchwil i faterion byd-eang fel newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy, hyd at ymchwil feddygol i glefyd y galon a chanser, gallai eich cefnogaeth sicrhau bod yr ymchwil byd-enwog hon yn parhau i drawsnewid bywydau.
Gan bontio'r bwlch rhwng yr arferol a'r anghyffredin
Cefnogwch ymchwil arloesol
Astudiaethau Ôl-raddedig
Mae astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe yn grymuso myfyrwyr talentog i fynd i'r afael â heriau mwyaf y byd—o ddatblygiadau meddygol i dechnoleg gynaliadwy a newid cymdeithasol. Drwy gefnogi ysgoloriaethau ac ymchwil ôl-raddedig, rydych chi'n helpu i agor drysau i feddyliau disglair a allai fel arall golli'r cyfle i barhau â'u hastudiaethau. Mae eich haelioni yn hybu arloesedd, yn cryfhau ein cymuned ymchwil fyd-eang, ac yn creu effaith barhaol. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac arweinwyr yn ffynnu yn Abertawe a thu hwnt.
Ymchwil Feddygol
Ers dros 100 mlynedd, mae ein hymchwil wedi bod yn gwneud gwahaniaeth. Rydym yn cynnal ymchwil ar draws llawer o wahanol feysydd, gan annog cydweithio, arloesedd ac effaith yn y byd go iawn. O ymchwil i faterion byd-eang fel newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy, hyd at ymchwil feddygol i glefyd y galon a chanser, gall eich cefnogaeth sicrhau bod yr ymchwil fyd-enwog hon yn parhau i drawsnewid bywydau.
Ein Prosiectau Ymchwil
Rydym yn cydnabod yr heriau y mae unigolion a chymdeithasau yn eu hwynebu wrth weithio a byw mewn byd sy'n newid yn barhaus. Mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol, dan arweiniad academyddion arloesol a thrwy ddefnyddio cyfleusterau arloesol, yn helpu pobl i addasu i newid, a gwella eu bywydau. Drwy nodi, datblygu a chyfuno meysydd ymchwil sy'n dod i'r amlwg, rydym yn torri tir newydd i greu lle i syniadau dyfu a diffinio a chyflymu meysydd ymchwil sy'n newid bywydau.