Cofio Abertawe

Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn benderfyniad personol iawn. Mae'n fynegiant o'ch gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n bwysig i chi. Mae rhoddion etifeddol yn cael effaith ar draws y sefydliad ac yn rhoi'r cyfle i chi greu etifeddiaeth sy'n ein helpu i ddeall y byd o'n cwmpas yn well.

Mae stori pawb yn unigryw, ond mae gan lawer gysylltiad â Phrifysgol Abertawe ac ymrwymiad cyffredin i ddiogelu ei dyfodol. Mae gadael rhodd yn eich Ewyllys i Gronfa'r Angen Mwyaf yn caniatáu i'r Brifysgol gyfeirio cefnogaeth lle bydd yn cael yr effaith fwyaf—boed hynny'n golygu helpu myfyrwyr talentog i ffynnu, gwneud Abertawe yn gartref oddi cartref go iawn, hyrwyddo ymchwil arloesol, hyrwyddo dyfodol cynaliadwy, neu ysgogi arloesedd ym maes iechyd, i enwi dim ond ychydig o bosibiliadau.

Drwy gofio’r Brifysgol yn eich Ewyllys, rydych chi’n cefnogi myfyrwyr sydd â’r potensial mwyaf, yn ariannu ymchwil arloesol ac yn llunio’r Byd y tu hwnt i’n hoes ni.