A hithau’n torri tir newydd yn y diwydiant, bu rôl allweddol gan Patricia wrth drawsnewid fformatau teledu, gan helpu i ddod â rhaglenni gan gynnwys The X Factor, American Idol ac America’s Got Talent i sgriniau ym mhedwar ban byd.
Roedd Trish bob amser yn gwybod ei bod am gael gyrfa yn y cyfryngau. Astudiodd yn Ysgol Our Lady’s Convent yng Nghaerdydd ac ar ôl hynny, daeth o hyd i'w chwrs gradd perffaith ym Mhrifysgol Abertawe. Datblygodd ei gradd cydanrhydedd mewn Saesneg a Drama yn Abertawe gariad Trish at ddarllen, sgriptiau a gweithio gydag actorion, gan feithrin ymagwedd arbrofol at ei gwaith. Roedd hwn yn fan cychwyn gwych i Trish, ond dysgodd yn gyflym nad oes sicrwydd o lwyddiant ym myd teledu. Ar hap, clywodd fod De Affrica newydd lansio ei diwydiant teledu ac wedi'i sbarduno gan uchelgais, teithiodd Trish mewn cwch i Johannesburg, lle canfu ryddid creadigol, gan ennill profiad gwerthfawr. Roedd hwn yn gam delfrydol tuag at ei breuddwydion ac ar ôl blwyddyn, dychwelodd Trish i'r DU lle llwyddodd i gael swydd gyda Granada Television.
Arhosodd Trish gyda Granada am 10 mlynedd, gan ddatblygu ei gyrfa o fod yn ysgrifennwr sgriptiau hyrwyddo, yn ymchwilydd ac yn gynhyrchydd yn y pen draw.
Wedi hynny, ymunodd â Tyne Tees Television fel Rheolwr Adloniant a Rhaglenni Plant yn ogystal â bod yn Gynhyrchydd Gweithredol cyfres gyntaf y rhaglen chwyldroadol i bobl ifanc, The Word, ar gyfer Sianel 4.
Wrth weithio i Action Time, un o gwmnïau teledu annibynnol cyntaf y DU, dechreuodd Trish ar genhadaeth i rannu fformatau teledu llwyddiannus o'r DU ag Ewrop ac i'r gwrthwyneb. Roedd hwn yn gam hynod lwyddiannus i Trish ac roedd hi wrth ei bodd yn hwyluso cydweithredu a deialog barhaus rhwng diwylliannau creadigol.
Gwnaeth ymagwedd newydd ac arbrofol Trish greu argraff dda ar y diwydiant a oedd yn barod am newid. Yn 2010 gofynnodd Fremantle Media iddi ymuno â'r cwmni fel Llywydd Adloniant Byd-eang, gan reoli tîm o gynhyrchwyr a fu’n teithio o gwmpas y byd i sicrhau bod fformatau'n cael eu trosglwyddo'n llwyddiannus i wledydd gwahanol.
Yn 2012, gofynnwyd iddi fynd i’r Unol Daleithiau i fod yn Gynhyrchydd Gweithredol The X Factor, America’s Got Talent ac American Idol, gan sicrhau ansawdd a llwyddiant y fformatau Prydeinig hyn yn yr Unol Daleithiau a ledled y byd.
Yn 2023, dyfarnwyd OBE i Trish am wasanaethau i Ddarlledu a'r Diwydiant Fformatau Teledu Rhyngwladol.