Ganwyd David Huw Williams KC yng Nghastell-nedd ac fe'i magwyd yng Nghimla. Daeth ei fam o Lanelli a daeth ei dad o benrhyn Gŵyr. Mynychodd ef Ysgol Cefn Saeson ac yna Ysgol Dŵr-y-Felin yng Nghastell-nedd, lle datblygodd ef ddiddordebau brwdfrydig mewn rygbi a cherddoriaeth.
Roedd ei dad wedi astudio Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe ac, ym 1982, dechreuodd David astudio ym Mhrifysgol Abertawe hefyd, gan raddio gyda gradd mewn Biocemeg ym 1985.
Pan oedd ef yn y Brifysgol, daeth David i gysylltiad â drama, a fyddai'n datblygu angerdd hyd oes iddo, a chydweithredodd ef â chyd-fyfyrwyr i ysgrifennu a pherfformio mewn llawer o gynyrchiadau, gan gynnwys un o'r dramâu cyntaf i gael eu perfformio yn Theatr Taliesin, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2024.
Ym 1986, symudodd David i Lundain, lle gwnaeth ef barhau i actio ar y cyd ag astudio'r Gyfraith. Cafodd ei alw i'r Bar ym 1988 ac mae ef wedi bod yn ymarfer byth ers hynny. Cafodd ei ddyrchafu'n Gwnsler y Brenin ac mae ef wedi datblygu gyrfa nodedig fel bargyfreithiwr, gyda hanes gyrfa sy'n cynnwys ymgyfreitha trosedd a masnachol.
Mae David yn rhoddwr ac yn aelod gweithredol o'r Bwrdd Datblygu ym Mhrifysgol Abertawe.
Mewn ymateb i'r rhyfel yn yr Wcráin, trefnodd David gyfres o seminarau cyfraith o bell i fyfyrwyr y mae dadleoli wedi effeithio ar eu hastudiaethau. Gwnaeth y seminarau hyn ei ysbrydoli i ddatblygu Songs for Sanctuary, sef cyngerdd codi arian fawr sy'n cynnwys perfformwyr blaenllaw o Broadway a'r West End ar y cyd ag artistiaid o fri o Gymru. Mae'r gyngerdd, a gaiff ei chynnal y flwyddyn nesaf, yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus David i gymuned a bywyd diwylliannol y Brifysgol. Fel curadur, mae'n dod â'i ddiddordebau cyfreithiol, addysgol a chreadigol ynghyd i gefnogi achos ystyrlon a bydd yr holl elw'n cael ei roi i raglen Ysgoloriaethau Noddfa’r Brifysgol.