Rydym wrth ein bodd yn eich croesawu’n ôl i Brifysgol Abertawe ar gyfer aduniad cyn-fyfyrwyr eleni, cyfle gwych i ailgysylltu â hen ffrindiau ac ailymweld â’r lle sy’n dal cymaint o atgofion.

Bydd eich penwythnos yn dechrau gyda derbyniad diodydd hamddenol yn Abaty Singleton, gan osod y naws ar gyfer ychydig ddyddiau hiraethus. O’r fan honno, bydd cyfle i chi fwynhau cymysgedd o brofiadau, yn cynnwys teithiau o’n campysau neu fwynhau harddwch cyfarwydd Penrhyn Gŵyr a’r Mwmbwls.

Byddwn yn gorffen gyda chinio gala aduniad arbennig yn ôl yn Abaty Singleton, y lleoliad perffaith i fyfyrio, hel atgofion a dathlu cyfeillgarwch parhaol.

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y rhaglen isod.

Edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu’n ôl i Abertawe ar gyfer y penwythnos aduniad gwych hwn.

Taith Campws y Bae

Taith Campws y Bae

Taith bws o Gŵyr

Taith bws o Gŵyr

Taith Campws Singleton

Taith Campws

Cinio Aduniad yn Abaty Singleton

Cinio Aduniad yn Abaty Singleton

Rhaglen yr Aduniad

Mae gennym benwythnos llawn gweithgareddau i chi, ac mae croeso i chi wneud cynifer ohonynt neu gyn lleied ag y dymunwch!

Adeiladwch eich rhaglen aduniad a sicrhewch eich tocynnau isod!

Diogelu Data Datganiad Cryno Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu'ch gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw ynghylch y wybodaeth rydyn ni'n ei chadw amdanoch chi. Darllenwch ein datganiad diogelu data llawn yn achos cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr yn: https://www.swansea.ac.uk/cy/cyn-fyfyrwyr/cysylltwch-a-swyddfar-cynfyfyrwyr/polisi-preifatrwydd/