Offeiriaid Dall a Rheithorion Gwallgof: Iechyd, Clefydau ac Anabledd ymhlith Clerigwyr Ewropeaidd y Canol Oesoedd Hwyr.

Bydd y Dyfarniad Dyniaethau Meddygol Ymddiriedaeth Wellcome hwn, gwerth £187,147, yn cynnig cyllid i Dr Irina Metzler am bum mlynedd i gynnal astudiaeth fanwl o iechyd, salwch ac anabledd fel y’u hadlewyrchwyd mewn cofnodion eglwysig  gorllewin Ewrop yn y Canol Oesoedd canolig a hwyr.  Bydd yn ymchwilio i brofiad anabledd neu salwch ymhlith clerigwyr a chanlyniadau yr haen sylweddol hon o boblogaeth y Canol Oesoedd hwyr. Bydd y prosiect hwn o ddiddordeb nid yn unig i academyddion sy’n gweithio yn y maes, ond hefyd i’r cyhoedd yn ehangach, gan gynnig dealltwriaeth well o iechyd a lles yn y gorffennol a sut mae’n berthnasol i lywio sefyllfa’r presennol.

Heddiw, rydym yn cymryd yn ganiataol bod deddfwriaeth wrthwahaniaethol yn cynnig cyfleoedd cyfartal i bawb yn y farchnad swyddi. Ond roedd aelodau’r offeiriadaeth Gatholig yn destun archwiliad ‘ffitrwydd i weithio’ corfforol a meddyliol, fel y maent yn parhau i fod heddiw. Er enghraifft, ym 1995, “[the Vatican] provoked fury by issuing a decree banning men who suffer from an allergy to gluten from becoming priests” (Madeleine Bunting, ‘Wafer allergy bars priests’, the Guardian, 10 Hydref 1995). Roedd y Fatican yn mynnu mai afrlladau cymun a oedd yn cynnwys glwten oedd yr unig fath o afrlladau priodol. Mae’r stori hon yn amlygu canlyniadau diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol o’r hyn sy’n digwydd pan fydd namau (y ffenomen feddygol sylfaenol) yn cael eu hystyried gydag anableddau (sef mynnu ar ddehongliad diwylliannol).

Yn y Canol Oesoedd hwyr, cedwid cofnodion manwl gan yr Eglwys am ba fathau o salwch neu anableddau yr oedd gan offeiriaid, a gallwn ddefnyddio’r cofnodion hyn i roi gwybodaeth i ni am amrywiaeth o glefydau ac iechyd y grŵp demograffig hwn. Yn ogystal, gallwn ddefnyddio’r cofnodion hyn i ddweud wrthym pa fathau o salwch ac anabledd a oedd yn cael eu hystyried i fod yn fwy niweidiol nag eraill, ac a oedd yn caniatáu gyrfa yn yr Eglwys neu’n ei hatal. A gall y cofnodion hyn roi gwybodaeth i ni am ffordd o fyw’r clerigwyr yn gyffredinol, megis nifer fwy o bobl hŷn yn y boblogaeth hon nac yn y boblogaeth yn gyffredinol yn y Canol Oesoedd, er mwyn nodi tebygrwydd rhwng pryderon modern ynghylch poblogaeth sy’n heneiddio a darpariaethau y gellir eu hystyried yn y boblogaeth sydd wedi ymddeol. Drwy astudio deunydd fel hyn, gallwn ddatblygu dealltwriaeth well o ran pam yr ystyrid grwpiau penodol o bobl i fod yn sâl yn gorfforol neu’n feddyliol neu’n anabl yn y gorffennol, ac ym mha ffordd yr oedd eu profiad o fyw yn wahanol i’r sefyllfa heddiw.

Yn fwy penodol, nod y Dyfarniad yw :

- archwilio seiliau damcaniaethol y cysyniad o uniondeb corfforol a meddyliol y clerigwyr, a elwid yn “priestly idoneity”;

- archwilio i’r gwrthwyneb i “idoneity”, hynny yw achosion o anaddasrwydd clerigol ar sail gorfforol neu feddyliol;

- archwilio i sut y cyfiawnhawyd penderfyniadau eglwysig, drwy ystyried y rhesymau meddygol a chanonaidd ar gyfer cwestiynau “idoneity” y clerigwyr;

- archwilio’r arfer gwirioneddol, fel yn nhystiolaeth hanesion-achos unigol yng nghofrestri’r esgobion ac, o’r 15fed ganrif ymlaen, erfyniadau gerbron curia’r Pab, y cânt eu defnyddio i gynnig darlun sy’n dod i’r amlwg o gyflwr iechyd, salwch ac anabledd  y grŵp demograffig penodol hwn;

- cwestiynu i ba raddau roedd ymddeol ar sail oedran ac anallu yn broblem yn y Canol Oesoedd, a pha ystyriaethau y gallai hyn  eu datgelu ar gyfer y gymdeithas gyfoes.

O ganlyniad, gobaith y prosiect hwn yw gwneud cyfraniad sylweddol i’r Dyniaethau meddygol a hanes y Canol Oesoedd, yn ogystal ag at astudiaethau anabledd.

Mae Dr Irina Metzler yn Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH), Prifysgol Abertawe.

Cyswllt: i.v.metzler@swansea.ac.uk 

Medieval depiction of Blind Priests and Mad Rectors