Mae prosiect Swans100 yn archwilio, yn cadw ac yn dathlu treftadaeth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae’n dathlu canmlwyddiant yr Elyrch yn 2012 ac mae’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe ac Ymddiriedaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe. Mae’r prosiect yn sefydlu archif ar-lein sy’n cynnwys atgofion cefnogwyr, lluniau a dogfennau hanesyddol eraill. Wrth roi llais i gefnogwyr pêl-droed, mae’r prosiect yn archwilio ac yn dathlu’r berthynas rhwng Dinas Abertawe a’r gymuned, gan greu cofnod parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r ymchwil hon a ariennir gan HLF  yn cael ei harwain gan Dr Martin Johnes, arbenigwr blaenllaw ar hanes chwaraeon yng Nghymru. Mae llyfr diweddaraf Martin, Wales Since 1939, bellach wedi’i gyhoeddi gan MUP.

Mae gwefan ryngweithiol newydd sbon wedi cael ei lansio. Mae 100 mlynedd o Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn galluogi ymwelwyr i:

  • Weld (a chyfrannu at) archif ar-lein sy’n ehangu’n barhaus ac sy’n cynnwys dogfennau a ffotograffau nas welwyd o’r blaen
  • Dilyn cynnydd y prosiect
  • Cyfrannu at arolwg o gefnogwyr Abertawe ar raddfa fawr
  • Bydd yr archif ar-lein hefyd yn cynnwys taflenni a phecynnau addysg sy’n esbonio ac yn archwilio rôl y clwb yn nhreftadaeth y gymuned leol.

- PHIL SUMBLER, YMDDIRIEDAETH CEFNOGWYR DINAS ABERTAWE

“Y rhan sy’n ysbrydoli fwyaf…. yw’r etifeddiaeth y bydd yn ei chreu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau"