Yn y prosiect hwn, a ariennir gan yr AHRC, bydd yr Athro David Turner yn ymchwilio i ffyrdd y byddai namau corfforol yn cael eu diffinio, eu deall a'u trafod yn Lloegr rhwng 1660 a 1830.

Mae hanes anabledd wedi datblygu dros y degawd diwethaf i ddangos nad yw ystyron namau wedi'u pennu'n fiolegol ond y gallant newid dros amser. Serch hynny, mae'r ymchwil hon yn canolbwyntio ar y ddeunawfed ganrif a'r ugeinfed ganrif, gan olrhain gwreiddiau hanesyddol y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn y presennol o ran dinasyddiaeth. Mae ymchwil i anabledd cyn 1800 yn tueddu i ganolbwyntio ar agweddau mwy "rhyfedd", megis straeon ymylol o 'enedigaethau angenfilaidd', yn hytrach na'i ymddangosiadau mwy cyffredin. At hynny, mae hanesion sy'n bodoli o anabledd wedi'u seilio'n gyffredinol ar hanesion sefydliadol ac o'r pen i lawr o'r hyn a wnaed i bobl anabl; Prin yw'r hyn rydym yn ei wybod am y profiad o fod yn anabl yn yr oesoedd a fu.Er gwaetha'r ffaith bod y cyfnod rhwng y 17eg ganrif hyd at y 19fed ganrif gynnar wedi bod yn dyst i newidiadau sylweddol mewn triniaeth pobl anabl ac mewn canfyddiadau cymdeithasol o anabledd, nid yw'r cyfnod wedi bod yn destun sylw hanesyddol manwl eto.

Nod 'Dychmygu Anabledd' yw gwneud yn iawn am yr esgeulustod hwn, gan ddadansoddi cynrychioliadau diwylliannol o anabledd a thystiolaeth gan bobl anabl  i ymchwilio i ystyron namau yn y cyfnod hwn. Prif allbwn y prosiect hwn fydd monograff sy'n cynnig yr astudiaeth hyd llyfr cyntaf ar namau corfforol yn y cyfnod hwn.