MANYLION Y PROSIECT

Bydd Cymrodoriaeth fawreddog Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sy'n werth £86,000, yn galluogi’r Athro John Goodby i ymweld â lleoedd sy'n cadw llawysgrifau Dylan Thomas yn llyfrgelloedd prifysgolion  UDA megis Buffalo, Efrog Newydd ac Austin, Tecsas ymysg eraill.  

Mae’r Athro Goodby wedi cyhoeddi’r astudiaeth hyd llawn gyntaf o farddoniaeth Thomas ers y 1960au.Cyhoeddwyd The Poetry of Dylan Thomas: Under the Spelling Wall ar 31 Gorffennaf 2013 gan Wasg Prifysgol Lerpwl.

Nod y ddau ddarn o waith yw ail-ddehongli Dylan Thomas yng nghyd-destun blynyddoedd cynnar y 21ain ganrif.  Yn wahanol i'r 91 o gerddi oedd yn yr argraffiad diwethaf o waith Thomas, bydd yr argraffiad newydd yn cynnwys oddeutu 160 o gerddi.  Hefyd, bydd yr argraffiad newydd yn trefnu'r cerddi yn ôl dyddiad eu cyfansoddi, gan alluogi darllenwyr i olrhain datblygiad Thomas. 

Roedd rhagfynegiad Thomas o beryglon enwogrwydd, wrth iddo farw'n gynnar, yn rhan o'r hyn a'i wnaeth yn ffefryn i The Beatles, Bob Dylan, cyn Arlywyddion yr UDA, Bill Clinton a Jimmy Carter, ac i sêr ffilm a roc megis Cerys Matthews a George Clooney (sy'n adrodd 'And Death Shall Have No Dominion' yn llawn yn ei ffilm Solaris).  Mae'n arwyddocaol mai ef oedd y bardd cyntaf i weithio yn holl gyfryngau darlledu a recordio ei oes - radio, ffilm, LP, a theledu - ac mae ei statws unigryw fel bardd anodd sydd, serch hynny, yn apelio i'r werin a'r miloedd wedi'i wneud yn eicon diwylliannol fythol. 

Shows Dylan Thomas smoking a cigarette.

PROFESSOR GOODBY AR Y PROSEICT

Mae John Goodby yn Athro yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac yn arbenigwr rhyngwladol ar Dylan Thomas.

"Mae Dylan Thomas yn fardd sy'n siarad â'r presennol mewn modd byw, yn goleuo barddoniaeth gyfoes y brif ffrwd yn ogystal â barddoniaeth avant-garde.  Er bod rhai beirniaid llenyddol wedi tueddu i fwrw hyn i'r cysgod yn ystod y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf - esgeulusir Thomas yn y byd academaidd ar hyn o bryd - mae Thomas bob amser wedi bod yn fardd pwysig i'r cyhoedd.  Mae ei statws unigryw fel eicon diwylliannol yn rhan o'r hyn sydd o ddiddordeb i mi.  Cafodd barddoniaeth Thomas ei chyfieithu’n fwy na gwaith unrhyw fardd iaith Saesneg arall o’r 20fed ganrif, heblaw am T. S. Eliot, ac mae cymdeithasau Dylan Thomas yn ffynnu mor bell ag UDA, Canada, Japan, Gwlad Pŵyl ac Awstralia.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ddarllenydd sy'n dymuno darllen holl gerddi Thomas fynd at o leiaf chwe llyfr gwahanol; bydd fy argraffiad newydd yn casglu'r cerddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, neu sy'n ymddangos yn ei lythyrau neu ei straeon byr, yn ogystal â'r sgript ffilm mewn barddoniaeth, Our Country, a dod â nhw at ei gilydd mewn un gyfrol am y tro cyntaf.”